Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 3 Mawrth 2020.
Asesiad diweddaraf Llywodraeth y DU yw y gallai hyd at un ran o bump o'r gweithlu fod yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch yn ystod yr anterth mewn epidemig. Cynyddodd nifer y bobl ar gontractau dim oriau yng Nghymru rhwng Mehefin 2018 a Gorffennaf 2019 gan 35 y cant, a dim ond un o bob saith ohonyn nhw sy'n cael tâl salwch. Pa gronfeydd y mae'r pedair Llywodraeth yn bwriadu eu sefydlu i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl ar gontractau o'r fath—staff asiantaeth yn y GIG a hawlwyr budd-dal cynhwysol—orfod dewis rhwng eu hiechyd a thalu eu biliau?