Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 3 Mawrth 2020.
Ie, rwy'n deall y gwahaniad rhwng y Weithrediaeth a'r Cynulliad, ond i'r cyhoedd y tu allan arian cyhoeddus yw hyn i gyd. Mae'n ymddangos i mi bod y cynnig hwn yn wastraff enfawr ar arian cyhoeddus ac yn ddim mwy na stỳnt cysylltiadau cyhoeddus. Nid yw wythnos yn y gogledd yn mynd i wneud iawn am 20 mlynedd o esgeulustod. Nawr, mae'r Prif Weinidog yn galw ar Lywodraeth y DU i roi arian i ddioddefwyr llifogydd, ond nid yw'n mynd i wneud unrhyw sylw ar wario'r holl arian cyhoeddus hwn ar wleidyddion yn mynd ar daith i fwynhau eu hunain. A yw e'n cytuno â mi y dylai pob Aelod wrthwynebu'r gwastraff arian hwn a pheidio â chymryd rhan yn nhrafodion yr wythnos honno?