Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 3 Mawrth 2020.
Llywydd, nid yw'r un o'r rhai yna'n faterion i mi. Rwy'n anghytuno'n llwyr â'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, dim ond fel Aelod o'r Senedd, gan fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gael ein gweld, ein bod ni'n weladwy, ein bod ni'n dangos i bobl ym mhob rhan o Gymru berthnasedd yr hyn sy'n digwydd yn y fan yma i'w bywydau. Gwn fod y Comisiwn yn cynllunio, yn trefnu ac y bydd yn rheoli trafodion Senedd Clwyd, a deallaf, Llywydd, eich bod chi'n bwriadu cyhoeddi rhagor o fanylion am y digwyddiad yn ddiweddarach y mis hwn. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at fod gydag Aelodau eraill yn y gogledd ym mis Mehefin.