Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 3 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Cyllid. Fe gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 18 Chwefror i drafod ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Mae ein hadroddiad ni yn gwneud nifer o argymhellion, ac mi fyddaf i'n trafod jest rhai o'r rhain yn fras iawn y prynhawn yma.
Fel y nodwyd yn ein dadl gynharach ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2020-21, fe wnaeth y pwyllgor gydnabod y gallai cyllideb ddisgwyliedig y DU ar 11 Mawrth effeithio ar gyllid Llywodraeth Cymru. Yn ein hadroddiad ar yr ail gyllideb atodol hon, rŷn ni wedi ailadrodd ein hargymhelliad blaenorol y dylai manylion fod ar gael i’r pwyllgor cyn gynted â phosib ar ôl cyllideb y DU, ac yn benodol mewn perthynas â’r cyllid, wrth gwrs, ar gyfer 2019-20.
Rŷn ni wedi gwneud nifer o argymhellion o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys parhau i geisio cynnydd yn y swm sy'n cael ei ddwyn ymlaen yn flynyddol o'r cyfalaf trafodion ariannol, ac er nad yw'n benodol i'r gyllideb atodol hon, rŷn ni hefyd wedi gofyn am ddiweddariad ynglŷn ag unrhyw gyllid canlyniadol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch HS2.
Fe ystyriodd y pwyllgor sut mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae ganddi gronfeydd cyfalaf a refeniw, ac mae cyllid hefyd yn nwylo adrannau unigol ar gyfer argyfyngau yn ystod y flwyddyn. Rŷn ni wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad alldro er mwyn cael dealltwriaeth well o’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, a’r newidiadau a wnaed ers y gyllideb atodol hon.
Er bod y gyllideb atodol yn cynnwys trosglwyddiadau allan o risg llifogydd a rheoli dŵr, mae'r pwyllgor yn nodi bwriad y Gweinidog i ddarparu cynllun rhyddhad brys i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar. Mae'r pwyllgor yn cydnabod gweithredoedd y Gweinidog o ran rhoi cymorth ariannol, a byddai'n gefnogol i'r angen i ddefnyddio pwerau adran 128 pe bai angen hyn i adlewyrchu unrhyw gefnogaeth ariannol ychwanegol yn 2019-20.
Gofynnon ni am y diweddaraf ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â chyllid Brexit. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym ni ei bod yn disgwyl gallu cael mynediad at swm sy’n cyfateb i gyfanswm y cyllid y mae gan Gymru hawl iddo gan yr Undeb Ewropeaidd. Roedd ein hadroddiad blaenorol ar baratoi ar gyfer llenwi’r bwlch o ran cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am weinyddu a rheoli’r gronfa ffyniant gyffredin yng Nghymru. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym ni fod Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen o ran sut y byddai'n datblygu a gweinyddu cynllun o'r fath.
Yn fyr, fe gawsom ni ddau gais ynghylch y gyllideb atodol, un gan Gomisiwn y Cynulliad ac un gan yr archwilydd cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru. Er ein bod yn fodlon â'r ddau, rŷn ni wedi gwneud un argymhelliad i Swyddfa Archwilio Cymru, a hynny ynglŷn ag incwm ffioedd.
Yn olaf, rŷn ni wedi nodi gwelliant y Gweinidog i’r cynnig heddiw, a gan fod y pwyllgor wedi ystyried y nodyn esboniadol a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn cynnwys y ffigur cywir ar gyfer adnoddau sy’n cronni, rŷn ni'n fodlon â'r gwelliant arfaethedig.