Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 3 Mawrth 2020.
Mae i fyny i'r Llywodraeth yn San Steffan. Gallan nhw roi swm canlyniadol Barnett i ni, gallan nhw roi symiau o arian i ni amdano, neu gallan nhw roi dim byd i ni. Eu penderfyniad nhw yw hwnnw, a byddwn i'n gobeithio y byddech chi'n ymuno â phob un ohonom ni wrth ddweud y dylen nhw fod yn rhoi o leiaf rhywfaint ohono i ni.