10. Dadl: Cynnydd ar fynd i'r afael â Throseddau Casineb

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 3 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 6:09, 3 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gydnabod problem troseddau casineb heddiw, yn ogystal â darparu'r gofod hwn i drafod. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw drwy sôn am ddwy enghraifft o achosion, sy'n helpu i dynnu sylw at y ffaith bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ei holl ffurfiau cynnil a sinistr.