Gwirfoddoli a Grwpiau Gwirfoddol

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 3 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:45, 3 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r cynghorau gwirfoddol sirol i gefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau gwirfoddoli ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys grant Gwirfoddoli Cymru sy'n galluogi prosiectau gwirfoddoli i recriwtio, cynorthwyo, hyfforddi a lleoli gwirfoddolwyr newydd.