Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 3 Mawrth 2020.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna? Efallai eich bod chi wedi clywed yn gynharach fy mod i wedi gofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog am bartneriaeth llety â chymorth pobl ifanc Caerdydd, sy'n cael ei harwain gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, ond mae Cymdeithas Tai Taf yn rhan ohoni, a Byddin yr Eglwys hefyd. A chafodd hynny ei annog, y dull partneriaeth hwnnw, gan Gyngor Caerdydd. Ac mae'n ymddangos i mi fod hynny'n enghraifft dda iawn o arfer gorau, gan ddefnyddio adnoddau'r sector gwirfoddol, ac, yn yr achos hwn, hefyd yn ymwneud â dull ffydd gymunedol. Ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym eisiau ei ddatblygu, yn enwedig pan fyddan nhw'n cysylltu, fel yn yr achos hwn, gyda rhyw fath o asiantaeth sector cyhoeddus—gwn fod cymdeithas dai yn y parth braidd yn llwyd hwnnw. Ond mae hyn yn ymddangos i mi fel y math o waith yr ydym ni eisiau ei annog.