Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 3 Mawrth 2020.
Ydy. Hoffwn hefyd ychwanegu gair o ddiolch i David Melding am ei stiwardiaeth o'r trydydd sector. Daeth y ddau ohonom o'r trydydd sector pan ddaethom ni yma ym 1999, 21 mlynedd yn ôl. Ond mae mor bwysig eich bod chi wedi hyrwyddo'r trydydd sector ac mae'r bartneriaeth hon yr ydych chi wedi ei disgrifio y prynhawn yma yn rhagorol. Mae'n ymgysylltu gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector, ac a gaf i, wrth ymateb ar unwaith i'r cwestiwn hwnnw, ddweud bod hyn yn gysylltiedig iawn â chod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu'r trydydd sector? Mae'n nodi'r egwyddorion hynny ar gyfer cyrff cyhoeddus, megis awdurdodau lleol, ar sut y dylen nhw gydymffurfio o ran sicrhau bod cyfleoedd ar gael i'r trydydd sector. Ac rwyf yn awr yn mynd i roi'r pwynt hwn ar agenda nesaf is-bwyllgor ariannu a chydymffurfiad cyngor partneriaeth y trydydd sector.