Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 3 Mawrth 2020.
Wel, rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â ni ar y meinciau hyn i gefnogi'r gyllideb derfynol y prynhawn yma, sydd mewn gwirionedd yn cynnwys, rwy'n credu, dros £6 miliwn i gymeradwyaeth y gyllideb derfynol. O ran grant Gwirfoddoli Cymru, mae £1.3 miliwn wedi'i ddyrannu i'w weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Soniais yn gynharach am y cod ymarfer ar gyllid ar gyfer y trydydd sector sy'n rhan o gynllun y trydydd sector. Edrychaf ymlaen at gefnogi Llywodraeth Cymru y prynhawn yma, o ran y gyllideb, sy'n rhoi blaenoriaeth i gyfiawnder cymdeithasol, anghenion tai a chynnal y gwasanaethau sydd mor bwysig i bobl, gan gynnwys gwirfoddoli. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, byddem mewn lle gwell o lawer pe na byddem wedi dioddef y 10 mlynedd o gyni cyllidol o ganlyniad i Lywodraeth Geidwadol y DU.