Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 3 Mawrth 2020.
Mae'r cyngor ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd. Mae natur y sefyllfa sy'n datblygu a phwysigrwydd ymateb yn gymesur yn golygu bod canllawiau penodol i deithwyr sy'n dychwelyd o ardaloedd penodol o'r byd. Gallwch weld y cyngor diweddaraf ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth gwrs, yn cael ei diweddaru am 3 o'r gloch bob dydd.
Gwefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad yw'r ffynhonnell awdurdodedig o gyngor teithio i'r cyhoedd ym Mhrydain. Mae'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad yn parhau i gynghori: nad yw pobl yn teithio i dalaith Hubei yn Tsieina; i deithio i dir mawr Tsieina dim ond os yw hynny'n hanfodol; ac i deithio dim ond os yw hi'n hanfodol i nifer fach o ardaloedd penodol mewn rhai gwledydd, gan gynnwys 11 o drefi bach penodol yng ngogledd yr Eidal. Mae'r cyngor teithio hwnnw yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r cyfyngiadau mynediad sydd gan rai gwledydd ar gyfer teithwyr diweddar i'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Caiff y cyngor teithio hwn ei adolygu'n gyson a dylai pobl edrych yn rheolaidd ar yr wybodaeth ar gyfer gwledydd penodol ar wefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad.
Hoffwn bwysleisio eto na ddylai unrhyw un sydd wedi teithio'n ôl o ardal yr effeithiwyd arni, neu sydd â phryderon eu bod yn gyswllt agos i rywun y cadarnhawyd fod y cyflwr arno, fynd i'w feddygfa deulu nac i adrannau achosion brys ysbytai. Dylai pobl edrych ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Lywodraeth Cymru i gael y cyngor diweddaraf. Os oes, ar ôl ystyried y canllawiau ar-lein, gan bobl bryderon ynghylch y coronafeirws, gallant bellach ffonio'r rhif 111 am ddim o unrhyw le yng Nghymru. Bydd gwneud hyn yn golygu y gall pobl gael eu hasesu gan staff cywir y GIG ac, ar yr un pryd, gyfyngu'r lledaeniad posib yr haint i bobl eraill.
Rwy'n gofyn i bobl fod yn amyneddgar a chydnabod y pwysau ychwanegol y mae'r sefyllfa hon yn ei rhoi ar wasanaethau sydd eisoes o dan bwysau. Ni ddylai pobl gynhyrfu wrth aros am gymorth. Penderfynir a oes angen asesiad yn seiliedig ar asesiad o ba mor debygol yw hi fod yr haint ar rywun. Mae angen i ni gofio bod dros 450 o brofion wedi'u cynnal hyd yma, gyda dim ond un achos o gludo'r haint i Gymru wedi ei gadarnhau o'r niferoedd a brofwyd. Rydym hefyd yn gwybod, hyd yn oed pan gaiff achosion eu cadarnhau, bod gan y rhan fwyaf o bobl symptomau ysgafn neu ddim symptomau gwirioneddol. Mae ar bobl yng Nghymru angen cymorth achub bywyd brys gan ein GIG bob dydd am ystod o afiechydon sydyn, cyflyrau hirdymor neu ddamweiniau. Bydd y GIG, a hynny'n briodol, yn parhau i flaenoriaethu sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd.
Mae GIG Cymru eisoes wedi datblygu prawf ar gyfer y feirws ac wedi profi cannoedd o unigolion hyd yn hyn, fel y crybwyllais. Mae'r prawf hwn bellach wedi'i ychwanegu at ein rhaglen bresennol ar gyfer arolygu clefydau yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu y bydd rhai meddygfeydd teulu yn cyflwyno samplau i'w profi yn ogystal â phrofion sy'n cael eu cynnal yn rhai o'n hunedau gofal dwys. Dylai hyn sicrhau ein bod yn gallu canfod yn gyflym unrhyw ledaeniad o'r haint sydd heb ei ddarganfod ymysg y boblogaeth.
Mae'r unedau asesu a phrofi cymunedol a sefydlwyd gan fyrddau iechyd, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi golygu bod y mwyafrif helaeth o bobl wedi cael eu profi yn eu cartref eu hunain. Un o nodweddion pwysig ein hymateb yng Nghymru yw bod dros 90 y cant o'r profion wedi'u cynnal yng nghartref yr unigolyn hwnnw. Mae'r dull hwn wedi bod yn hollbwysig o ran galluogi ein GIG i barhau i ymateb i'r gwasanaethau a ddarparant a'r galw cynyddol a welwn ni yn ystod y gaeaf.
Rydym ni eisoes wedi gofyn i fyrddau iechyd ddynodi ardaloedd ar wahan i adrannau achosion brys lle gellir asesu unigolion heb beryglu cleifion eraill. Bwriad y dull hwn yw cyfeirio unigolion oddi wrth adrannau achosion brys ac osgoi'r risg bosib o heintio pobl eraill. Does arnom ni ddim eisiau i bobl fynd i'r ysbyty o gwbl i gael asesiad cychwynnol os ydynt yn poeni fod y coronafeirws arnyn nhw, neu fod symptomau arnyn nhw ar ôl teithio i un o'r ardaloedd penodol lle mae perygl o ddal yr haint.
Mae rhagor o waith cynllunio a gwaith ataliol ar y gweill. Mae gennym ni eisoes ein cynlluniau ar gyfer pandemig ffliw, a gofynnwyd i sefydliadau o bob un o'n fforymau cydnerthedd lleol yng Nghymru, yn ogystal â'n GIG, ystyried y cynlluniau hynny. Rydym ni eisiau i'n holl bartneriaid argyfyngau sifil fod yn barod i weithredu os bydd y sefyllfa bresennol yn gwaethygu. Mae'r cynlluniau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o sefyllfaoedd posib, gan gynnwys y sefyllfaoedd gwaethaf posib o ran achosion. Hwn, wrth gwrs, yw'r dewis cyfrifol i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid. Rydym ni'n paratoi ar gyfer y gwaethaf er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa ymarferol orau i ddiogelu iechyd pobl Cymru.
Cymerodd y Prif Weinidog a minnau ran yng nghyfarfod COBRA ddoe. Rydym yn parhau i gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig cenedlaethol eraill ar gynllunio i fynd i'r afael â'r coronafeirws. Cafodd cynllun gweithredu ar y cyd ar gyfer y DU ei gyhoeddi'n gynharach heddiw, wrth gwrs. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Gweinidogion ym mhob un o bedair Llywodraeth y DU yn ystyried a oes angen pwerau cyfreithiol cryfach i ffrwyno neu liniaru effaith bosib y feirws hwn. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar sylfaen paratoadau'r Bil pandemig ffliw blaenorol. Ein nod yw cael un darn cyson o ddeddfwriaeth i'r DU gyfan, os oes angen deddfwriaeth. Byddai nifer o faterion yn cael eu cadw'n ôl, ond rhaid i'r pwerau datganoledig, wrth gwrs, barhau i gael eu harfer gan Lywodraethau datganoledig cenedlaethol.
Mae rhai digwyddiadau cyhoeddus mawr wedi cael eu canslo neu eu gohirio. Gwnaed hyn yn nodweddiadol i gyfyngu ar y risg o drosglwyddo'r coronafeirws lle mae niferoedd mawr o bobl wedi ymgasglu. Mae nifer o ysgolion wedi cau mewn gwledydd eraill am resymau tebyg. Nawr, mae'r rhain yn ddewisiadau posib yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i arafu lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi cyrraedd y cam hwnnw. Dylai ysgolion aros ar agor. Mae yna, wrth gwrs, ganllawiau clir i ysgolion yma yng Nghymru sydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae trefniadau monitro gwell ar waith ym meysydd awyr Heathrow, Gatwick, Manceinion a Birmingham. Mae'r hediadau uniongyrchol yn dod i'r meysydd awyr hyn o'r rhan fwyaf o'r ardaloedd yr effeithir arnynt. Mae gan faes awyr Caerdydd a'n porthladdoedd allweddol eraill ddeunyddiau ymwybyddiaeth gyhoeddus ar waith ar hyn o bryd. Gellir gweithredu trefniadau monitro gwell ar gyfer maes awyr Caerdydd ar fyrder, os bydd eu hangen. Mae angen i'r ymateb fod yn gymesur. Mae'n bwysig cydnabod bod cyfyngiadau sylweddol i unrhyw sgrinio pobl sy'n cyrraedd o ran canfod achosion posib.
Mae'r penderfyniadau hyn yn gymhleth, ac mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall ledled y DU, yn cael eu cynghori gan arbenigwyr gwyddonol ac wrth gwrs gan y pedwar prif swyddog meddygol. Mae angen sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng diogelu iechyd a gwneud mwy o niwed, o bosib, o ganlyniad i gyflwyno cyfyngiadau. Mae'r cyfnod o amser y byddai angen i unrhyw gyfyngiadau fod mewn grym er mwyn atal lledaeniad y feirws yn effeithiol yn un o'n prif ystyriaethau. Mae goblygiadau sylweddol yn eu rhinwedd eu hunain o gau gwasanaethau fel ysgolion neu gyfyngu ar deithio a gallant wrthbwyso'r fantais o ohirio lledaeniad y feirws.
Y gwir amdani, fodd bynnag, yw mai'r pethau syml, yn aml, yw'r rhai pwysicaf. Gall pawb helpu i ddiogelu eu hunain ac eraill. Y ffordd orau o arafu lledaeniad firysau anadlol yw cario hancesi papur bob amser, eu defnyddio wrth besychu a thisian, eu rhoi yn y bin, ac yna golchi eich dwylo gyda sebon a dŵr. 'Ei ddal, ei daflu, ei ddifa', fel rwy'n siŵr y clywch chi fi a llawer o bobl eraill yn dweud am ddyddiau bwygilydd.
Yn anffodus, mae rhai pobl yng Nghymru, yn union fel yng ngweddill y DU, wedi dioddef sylwadau hiliol a rhagfarnllyd. Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw'r Llywodraeth hon yn goddef nac yn esgusodi'r hiliaeth a'r rhagfarn yr ydym ni wedi'u gweld a'u clywed. Nid yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang hwn yn gwahaniaethu rhwng gwahanol hil a ffydd. Ni ddylai ein pobl ddefnyddio'r argyfwng byd-eang hwn ym maes iechyd y cyhoedd fel esgus i wneud hynny.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i'n staff. Mae staff y GIG a Llywodraeth Cymru wedi gweithio oriau hir bob dydd i'n helpu i'n paratoi ar gyfer effaith bosib y coronafeirws. Mae ein partneriaid ym maes llywodraeth leol a'r gwasanaethau brys eisoes dan bwysau mawr oherwydd yr ymateb brys presennol a pharhaus i ddigwyddiadau llifogydd sylweddol ledled y wlad. Rwyf yn ddiolchgar am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb rhyfeddol a pharhaus. Diogelwch y cyhoedd yw eu prif flaenoriaeth, yn union fel y mae i'r Llywodraeth hon. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r cyhoedd yn rheolaidd.