Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 3 Mawrth 2020.
Diolch, Llywydd. Ddydd Gwener diwethaf, cadarnhaodd Cymru ei hachos cyntaf o'r coronafeirws newydd, a elwir yn COVID-19, a gafodd ei ddal pan oedd y person hwnnw yng ngogledd yr Eidal. Mae gwledydd eraill yn y DU yn parhau i adrodd am achosion wedi'u cadarnhau, gan gynnwys yr achos cyntaf o drosglwyddo cymunedol yn Lloegr. Ar draws y DU, rydym ni nawr wedi cyrraedd pwynt allweddol o ran lledaeniad y feirws hwn. Rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion ar ynysu a chyfyngu i helpu i atal neu ohirio lledaeniad y clefyd.