Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 3 Mawrth 2020.
Nawr, mae'r Canghellor eisoes wedi dweud ei fod wedi gofyn i'w swyddogion edrych ar effaith bosib y coronafeirws cyn cyhoeddi cyllideb y DU ar 11 Mawrth. Rwy'n credu mewn gwirionedd y bydd angen i ni weld beth sy'n angenrheidiol o ran cronfeydd wrth gefn, ac edrych nid yn unig, os mynnwch chi, ar gyfran syml o fformiwla Barnett ar gyfer popeth a allai ddigwydd neu beidio, ond i feddwl mewn gwirionedd am effaith wirioneddol y cyflwr. Oherwydd efallai y bydd gwahanol rannau o'r DU yn gweld effaith wahanol. Gallai Cymru fod yn ffodus a dianc ag effeithiau cymharol ysgafn o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU, neu gallai'r effaith fod yn wahanol, neu gallai'r effaith fod yn gyfartal ar draws pob un o'r pedair gwlad. A dweud y gwir, fy safbwynt i yw fy mod eisiau gweld adnoddau'n mynd i le mae angen i'r adnoddau hynny fynd. Ac wrth gyfeirio'r angen, unwaith eto, bydd hynny'n seiliedig ar gyngor gwyddoniaeth, ond hefyd ar gyngor ein prif swyddog meddygol, ynghylch ble a sut y gwnawn y gwahaniaeth mwyaf.
O ran cyflymu dychweliad staff sydd wedi ymddeol i'r maes, byddai angen newid deddfwriaeth y DU i wneud hynny. Mae hynny'n fater sy'n cael ei ystyried yn ddwys, gyda Bil posib. Ac wrth gwrs, rydym ni'n dal i ystyried y rhan fwyaf o faterion cofrestru o safbwynt pedair gwlad. Felly maen nhw'n faterion ar gyfer y DU—pwerau wedi eu cadw'n ôl yw'r rhain, ac maen nhw'n bethau y byddem ni'n eu cefnogi mewn gwirionedd; dyna pam ei fod yn y cynllun gweithredu ar y cyd y mae pob un o'r pedair Llywodraeth wedi ymrwymo iddo, fel mater i'w ystyried.
Cytunaf yn llwyr â'ch sylw ynglŷn ag urddas i bobl sydd wedi ynysu eu hunain. Mae rhywbeth i'w ddweud ynghylch sut mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ymddwyn os yw rhywun yn hunanynysu, a rhai pethau i'w dweud am ragfarn a phryder pobl, ond yr un mor berthnasol yw'r cyswllt o bell y gall pobl ei gael o hyd tra bod pobl mewn cyfnod o hunanynysu. I'r rhan fwyaf ohonom ni, gall y syniad o fod gartref am 14 diwrnod swnio'n eithaf deniadol i ddechrau, ond, mewn gwirionedd, 14 diwrnod ar eich pen eich hun, yn y cartref, heb allu gwneud pethau arferol, rwy'n credu ei fod yn eithaf anodd i bobl. A hyd yn oed pan oeddem ni wedi rheoli sefyllfaoedd o ynysu mwy torfol ar gyfer y ddwy awyren gyntaf yn ôl o Tsieina, er enghraifft, mae hynny wedi bod yn anodd i bobl sydd wedi mynd drwy hynny, ac mae angen i ni ddeall hynny.
O ran y sylwadau am ganllawiau ar gyfer digwyddiadau mawr, gwyddom fod y chwe gwlad wedi cymryd hyn o ddifrif. Mae awdurdodau pêl-droed eisoes yn meddwl ymlaen llaw at rowndiau terfynol FIFA, a'r effaith bosib ar hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'n digwydd ar draws dwsin o ddinasoedd yn Ewrop. Ac os byddwn ni'n dal i fod mewn cyfnod o ynysu, yna gallai hynny effeithio ar y ffordd y mae rhai o'r digwyddiadau hynny'n digwydd neu ddim yn digwydd. Rydym ni eisoes wedi gweld y penderfyniad a wnaed am y gêm rhwng yr Eidal ac Iwerddon hefyd. Felly mae yna sgyrsiau a all ddigwydd. Rydym ni eisiau sicrhau na fyddwn yn arwain y sgyrsiau drwy wneud cyhoeddiad cyn i sgwrs gael ei chynnal gyda chyrff chwaraeon Cymru, neu unrhyw ddigwyddiad mawr arall, ynghylch beth yw'r cyngor priodol, ond eto i wneud hynny ar sail briodol cyngor a roddir. A hoffwn ofyn am gyngor uniongyrchol ein prif swyddog meddygol ynghylch a ddylid gofyn i bobl beidio â chynnal digwyddiadau dan yr amgylchiadau hynny, ac wedyn efallai y byddwn yn ystyried a fyddai angen pwerau gweinidogol i wneud hynny. Ond byddai hynny'n rhan o sgwrs am y Bil, ac, unwaith eto, byddai'n rhaid i'r gofynion ar gyfer arfer unrhyw bwerau, pe baent yn bodoli, fod yn seiliedig ar y ffaith bod sefyllfa o argyfwng gwirioneddol yn y wlad yn gyffredinol.
Ynglŷn â chyngor o ran teithio, unwaith eto, mae gwefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad yn ffynhonnell awdurdodedig o arweiniad ar deithio. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd hynny, ac wedi cyfeirio at y wefan yn ein canllawiau ein hunain, sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae hynny hefyd yn cael ei ailadrodd drwy'r wybodaeth y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei darparu, am arferion pobl ar hyn o bryd, ond hefyd yn y dyfodol hefyd.
Ac o ran eich sylw am gyflogwyr—. Mae pwynt eilaidd yr wyf eisiau ei wneud am fenthycwyr. Ond, o ran cyflogwyr, unwaith eto, fel y dywedaf, rydym ni wedi crybwyll rhai pethau, rhwng swyddogion, ond hefyd yn ystod sgyrsiau Gweinidogion, am dâl salwch statudol, ac am yr awydd i weld hwnnw'n cael ei dalu o'r diwrnod cyntaf. Oherwydd byddai hynny'n golygu nad yw pobl y mae angen iddyn nhw ddilyn cyngor i hunanynysu yn poeni am yr her bosib iddyn nhw a'u teulu os nad ydyn nhw'n gwneud hynny—bod colled ariannol o wneud hynny. Ond hefyd, gofynnodd fy nghyd-Aelod Llafur Jonathan Ashworth i Matt Hancock yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach am y posibilrwydd y gallai deddfwriaeth ystyried nid yn unig y bobl hynny sy'n weithwyr annibynnol, ond y bobl hynny sydd ar gytundebau dim oriau, i geisio gwneud yn siŵr os oes mesurau y gellid eu cymryd i sicrhau nad ydynt yn dioddef colli incwm a allai eu gweld fel arall yn parhau i fynd i'w gwaith, yn hytrach na dilyn y cyngor priodol i hunanynysu.
Mae'r pwynt olaf yn ymwneud nid yn unig â chyflogwyr, ac, os mynnwch chi, y pŵer meddal y gall y Llywodraeth ei arfer wrth sgwrsio â sefydliadau'r cyflogwyr hynny, ond mae a wnelo â benthycwyr hefyd, a, petaem yn cyrraedd sefyllfa lle y byddai'r coronafeirws yn cael effaith lawer ehangach ar y ffordd y mae pobl yn cynnal bywyd cyhoeddus—boed yn fusnesau bach, canolig neu fawr—ynghylch dymuno peidio â gweld benthycwyr yn gweithredu'n fyrbwyll mewn modd a allai beri i fusnes cymharol lwyddiannus fel arall, a ddylai barhau, i chwalu oherwydd y problemau posibl a allai ddod yn sgil y coronafeirws. Mae'r rheini'n sgyrsiau sy'n cael eu cynnal, o ran yr hyn y gall pob Llywodraeth ei wneud yn unigol, ond yn enwedig gallu'r Canghellor, ar lefel y DU, i gael rhai o'r sgyrsiau hynny am y ffordd y mae benthycwyr eu hunain yn ymddwyn.
Felly, gallwch weld nad yw hwn yn fater sy'n ymwneud ag iechyd yn unig: bydd yn cael effaith bosib ar yr holl Lywodraeth, ar gymdeithas gyfan, os symudwn i'r cyfnod pryd byddwn yn cyrraedd statws pandemig. Ond, ar hyn o bryd, heddiw, dylai pobl ymgymryd â'u dyletswyddau beunyddiol a chadw at eu harferion arferol, ac, i ailadrodd y cyngor a roddwyd o'r blaen, 'ei ddal, ei ddifa a'i daflu' a chymryd o ddifrif y cyngor a'r arweiniad a roddir i bobl gan awdurdodau iechyd y cyhoedd.