Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 3 Mawrth 2020.
Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar gyfraddau treth incwm yng Nghymru. Fe gafodd cyfraddau treth incwm Cymru eu cyflwyno ym mis Ebrill y llynedd a'u cymhwyso i drethdalwyr treth incwm sy'n byw yng Nghymru. Fe gyhoeddwyd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y gyllideb ddrafft. Yn unol ag ymrwymiadau blaenorol, ni fydd unrhyw newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru yn 2020-21. Fe fydd hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fe fydd hyn yn parhau i roi sefydlogrwydd i drethdalwyr mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd a chyni parhaus.
Ynghyd â'r grant bloc, mae trethi Cymru yn hollbwysig i helpu i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae llawer mewn cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw. Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ac wrth i realiti proses Brexit ddod i'r amlwg, fe all diogelu'r gwasanaethau hyn fynd yn fwy heriol. Eleni, mae'r ffaith fod cyllideb y DU yn anarferol o hwyr yn golygu nad yw cynlluniau treth Llywodraeth y DU ar gyfer 2020-21 a thu hwnt yn hysbys ar hyn o bryd, sy'n anfantais yng nghyd-destun ein cynlluniau ni ar gyfer trethiant yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n monitro cyllideb y DU ar gyfer nodi unrhyw effeithiau posibl ar Gymru.
Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn parhau i weinyddu treth incwm yng Nghymru, ac mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod â chyfrifoldeb llawn o ran trethiant incwm ar gynilion a difidendau. Mae fy swyddogion i'n parhau i weithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar y trefniadau manwl o ran gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru, ac maen nhw yn y broses ar hyn o bryd o drosglwyddo i fodel llywodraethu 'busnes fel arfer', yn dilyn cyfnod gweithredu llwyddiannus. Mae'r cod C cywir bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tua 97 y cant o'r trethdalwyr, ac mae fy swyddogion i'n gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi i gynyddu'r gyfran honno eto.
Rwy'n falch o hysbysu'r Siambr, yn rhan o ymgyrch ymgysylltu cost isel ehangach ar y cyfryngau cymdeithasol, a llythyr gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi a oedd yn cynnwys taflen gan Lywodraeth Cymru i bob trethdalwr sy'n byw yng Nghymru, fod yr ymwybyddiaeth o CTIC wedi cynyddu ar draws pob grŵp oedran, grwpiau economaidd-gymdeithasol a rhanbarthau yng Nghymru, gyda chynnydd o 14 pwynt canran rhwng mis Mehefin 2018 a mis Mehefin 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i fonitro ymwybyddiaeth a chynyddu ein hymdrechion i ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach ynglŷn â'n system drethu ni yng Nghymru. Rwy'n falch o dynnu sylw hefyd at ymchwiliad parhaus y Pwyllgor Cyllid, gan edrych ar effeithiau posibl gwahanol gyfraddau treth incwm dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac fe fyddaf i'n mynd i sesiwn graffu gyda'r pwyllgor ym mis Mawrth. Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn y pwyllgor ar y mater hwn.
Fe ofynnir i'r Senedd gytuno heddiw ar y penderfyniad ar y gyfradd Gymreig, a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm yng Nghymru ar gyfer 2020-21, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.