– Senedd Cymru am 4:03 pm ar 3 Mawrth 2020.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar gyfraddau treth incwm Cymru 2020-2021, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7285 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru 2020-21 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c;
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.
Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar gyfraddau treth incwm yng Nghymru. Fe gafodd cyfraddau treth incwm Cymru eu cyflwyno ym mis Ebrill y llynedd a'u cymhwyso i drethdalwyr treth incwm sy'n byw yng Nghymru. Fe gyhoeddwyd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y gyllideb ddrafft. Yn unol ag ymrwymiadau blaenorol, ni fydd unrhyw newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru yn 2020-21. Fe fydd hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fe fydd hyn yn parhau i roi sefydlogrwydd i drethdalwyr mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd a chyni parhaus.
Ynghyd â'r grant bloc, mae trethi Cymru yn hollbwysig i helpu i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae llawer mewn cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw. Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ac wrth i realiti proses Brexit ddod i'r amlwg, fe all diogelu'r gwasanaethau hyn fynd yn fwy heriol. Eleni, mae'r ffaith fod cyllideb y DU yn anarferol o hwyr yn golygu nad yw cynlluniau treth Llywodraeth y DU ar gyfer 2020-21 a thu hwnt yn hysbys ar hyn o bryd, sy'n anfantais yng nghyd-destun ein cynlluniau ni ar gyfer trethiant yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n monitro cyllideb y DU ar gyfer nodi unrhyw effeithiau posibl ar Gymru.
Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn parhau i weinyddu treth incwm yng Nghymru, ac mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod â chyfrifoldeb llawn o ran trethiant incwm ar gynilion a difidendau. Mae fy swyddogion i'n parhau i weithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar y trefniadau manwl o ran gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru, ac maen nhw yn y broses ar hyn o bryd o drosglwyddo i fodel llywodraethu 'busnes fel arfer', yn dilyn cyfnod gweithredu llwyddiannus. Mae'r cod C cywir bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tua 97 y cant o'r trethdalwyr, ac mae fy swyddogion i'n gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi i gynyddu'r gyfran honno eto.
Rwy'n falch o hysbysu'r Siambr, yn rhan o ymgyrch ymgysylltu cost isel ehangach ar y cyfryngau cymdeithasol, a llythyr gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi a oedd yn cynnwys taflen gan Lywodraeth Cymru i bob trethdalwr sy'n byw yng Nghymru, fod yr ymwybyddiaeth o CTIC wedi cynyddu ar draws pob grŵp oedran, grwpiau economaidd-gymdeithasol a rhanbarthau yng Nghymru, gyda chynnydd o 14 pwynt canran rhwng mis Mehefin 2018 a mis Mehefin 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i fonitro ymwybyddiaeth a chynyddu ein hymdrechion i ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach ynglŷn â'n system drethu ni yng Nghymru. Rwy'n falch o dynnu sylw hefyd at ymchwiliad parhaus y Pwyllgor Cyllid, gan edrych ar effeithiau posibl gwahanol gyfraddau treth incwm dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac fe fyddaf i'n mynd i sesiwn graffu gyda'r pwyllgor ym mis Mawrth. Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn y pwyllgor ar y mater hwn.
Fe ofynnir i'r Senedd gytuno heddiw ar y penderfyniad ar y gyfradd Gymreig, a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm yng Nghymru ar gyfer 2020-21, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.
Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Rwy'n deall mai cynnig byr yw hwn, ond mae'n un pwysig iawn, yn un hanesyddol: pennu cyfraddau treth incwm—CTIC—am y tro cyntaf yng Nghymru. Wedi misoedd lawer, blynyddoedd lawer, o siarad am y broses hon, rydym ni ynddi nawr. Mae'n rhaid cyfaddef mai dim ond disodli'r rhan o drethiant sydd wedi ei dileu yn y DU a wna'r cyfraddau sy'n cael eu hystyried heddiw, fel rhan o'r cyfnod pontio. Felly, roeddem bob amser yn gwybod, mewn gwirionedd, bod y cyfraddau treth incwm sy'n cael eu pennu heddiw yn mynd i fod ar y lefel honno ac ni fydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i bobl ar lawr gwlad ac yn eu cartrefi sy'n talu'r gyfradd Gymreig o dreth incwm—ar hyn o bryd, beth bynnag.
Gweinidog, mae angen i drethdalwyr Cymru fod yn hyderus y bydd y cyfraddau treth hyn yng Nghymru yn aros yn gystadleuol yn y dyfodol. A wnewch chi roi sicrwydd i ni—nid eleni'n amlwg, oherwydd bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, ond wrth edrych y tu hwnt i 2020-21—y gwneir pob ymdrech i sicrhau nid yn unig fod cyfraddau treth yng Nghymru yn parhau i fod yn gystadleuol, ond y gwneir ymdrechion hefyd i gynyddu sylfaen drethu Cymru? Oherwydd, yn amlwg, os oes gennym sylfaen drethu yng Nghymru sy'n ehangach a bod gennym fwy o drethdalwyr ar gyfradd uwch yng Nghymru, yna fe fydd y baich yn cael ei ysgwyddo gan nifer uwch o bobl. Felly, fe allwch chi gasglu mwy o dreth mewn gwirionedd drwy beidio â chodi cyfraddau treth, ond drwy drethu'r nifer uwch honno o bobl ar gyfradd uwch. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd yn rhaid ichi weithio gyda'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi i'w gyflawni.
A wnewch chi egluro hefyd a gafodd y problemau a godwyd gyda'r Pwyllgor Cyllid beth amser yn ôl, o ran nodi holl drethdalwyr Cymru—rwy'n credu y bu cynnig i ddefnyddio codau post ar un adeg—eu datrys yn llwyddiannus? Sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod rhagolygon mor gywir ag y gallen nhw fod, ac fel y mae angen iddyn nhw fod yn y dyfodol i sicrhau, pan ddaw'n fater o benderfynu ar newidiadau yng nghyfraddau treth y dyfodol—gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol—fod y penderfyniadau hynny'n seiliedig ar ddata economaidd sydd mor gadarn â phosibl?
Jest cwpl o sylwadau gen i. Mi fyddwn ninnau hefyd yn cefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw. Dyddiau cynnar iawn ydy'r rhain, wrth gwrs, wedi i gyfran o gyfraddau treth incwm gael ei datganoli y llynedd, ac mae'n bwysig iawn bod hyder yn cael ei ennill ymhlith y cyhoedd, ymhlith trethdalwyr yng Nghymru yn y trefniadau newydd datganoledig sydd yn eu lle. Mi fydd rhaid i ni yn y blynyddoedd i ddod, fel pleidiau gwleidyddol, fel seneddwyr yn y lle hwn, wneud penderfyniadau anodd dwi'n siŵr, a dewr, gobeithio, ynglŷn â chyfraddau. Ond mae yna synnwyr mewn mynd drwy'r cyfnod cychwynnol yma gan gadw cysondeb yn y trefniadau trethiannol.
Yr un peth ddywedaf i ydy hyn: mae angen arnom ni fel seneddwyr, mae angen ar y cyhoedd yng Nghymru, i weld bod Llywodraeth Cymru yn cael ei sbarduno gan y ffaith bod rheolaeth ganddyn nhw bellach dros gyfran o'n treth incwm ni, a'u bod nhw yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn cael eu gyrru ymlaen i sicrhau ein bod ni yn cynyddu'r sylfaen dreth sydd gennym ni yng Nghymru. Achos mae hwn yn gyfle gwirioneddol, allwn ni ddim cael busnes fel arfer. Gwastraff ydy datganoli pwerau trethi os mai dyna ydy'r agwedd. Ond am y tro, mae yna synnwyr, fel dwi'n dweud, mewn cadw'r ddysgl yn gymharol wastad.
Fe gyfeiriodd y Gweinidog at y cyfraddau hyn fel rhai sy'n berthnasol i drigolion Cymru. Dim ond cywiriad bach iawn: rwy'n credu bod hynny'n golygu trigolion Cymru a Neil Hamilton.
Y dewrder y cyfeiriwyd ato gynnau—. Byddai wedi bod yn ddewr pe byddai Aelodau, yn arbennig ar feinciau'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur, wedi sefyll i gael eu hethol ar sail datganiad clir yn y maniffesto—'Os pleidleisiwch chi drosom ni, fe fyddwn ni'n datganoli'r cyfraddau hyn ac yn caniatáu i bobl yng Nghymru gael treth wahanol i bobl yn Lloegr'—ond ni wnaethant hynny. Yn etholiad San Steffan 2015, ni ddywedodd Llafur air am ddatganoli treth incwm, ac fe ddywedodd y Ceidwadwyr y byddai hynny'n digwydd dim ond pe byddai'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn cynnal refferendwm. Yna, yn etholiad y Cynulliad 2016, fe ddywedodd Llafur 'pan' maen nhw wedi cael eu datganoli, er bod y gyfraith yn parhau i nodi bod angen cynnal refferendwm. Roedd gan y Ceidwadwyr ryw fath o amwysedd yn eu maniffesto nhw, nad oedd yn egluro'r sefyllfa, ac yna fe ddywedon nhw mewn dadl bod y gyfraith yn dweud ei bod yn rhaid cael refferendwm ond ni ddywedwyd dim am sut yr oedden nhw'n bwriadu dileu'r gofyniad hwnnw am refferendwm. Ac ni ddaeth hynny ond yn y mis wedi etholiad y Cynulliad, pan gyhoeddwyd yr hyn a ddaeth yn Ddeddf Cymru 2017.
Yn 2014, roeddwn i yn Nhŷ'r Cyffredin pan drafodwyd Deddf Cymru y flwyddyn honno. Rwy'n cofio, rwy'n credu, yr Ail Ddarlleniad ym mis Mawrth, ac wedyn fe gawsom ni, rwy'n credu—yn y diwedd, erbyn hynny, roeddwn i'n AS UKIP—ar 10 Rhagfyr 2014, ddadleuon ar welliannau'r Arglwyddi, pan ddiddymwyd y cam clo. Ac mewn gwirionedd, fel AS yn San Steffan, yr argraff fwyaf a gefais i o ystyr yr holl ddadleuon hynny oedd eu bod nhw'n ymwneud â'r cam clo ac ymgeisyddiaeth ddeuol. Ond mewn gwirionedd, roeddwn i'n cefnogi'r ddeddfwriaeth honno, ar y sail y byddai refferendwm cyn i hynny gael ei gyflwyno; eto i gyd, fe ddilëwyd y gofyniad hwnnw. Ar ddiwedd y ddadl, Stephen Crabb oedd y Gweinidog ar y pryd, rwy'n credu, ac fe gyfeiriodd ef yn 2014, yn y sylwadau olaf ar y Ddeddf honno, fod y Blaid Lafur wedi rhoi cymaint o glwydi uchel yn ffordd datganoli treth incwm fel ei fod yn teimlo ei bod wedi ei hysbrydoli gan Colin Jackson o Gaerdydd . Felly, dyna fy argraff i o gyfeiriad taith Llafur i'r fan hon.
Ond y realiti yw nad ydych chi wedi sefyll etholiad ar y mater hwn. Felly, dyna pam rwyf i'n gwrthwynebu pennu'r cyfraddau treth incwm hyn, oherwydd rhoddwyd addewid i bobl Cymru mewn refferendwm—ar y papur pleidleisio—na fyddai'r rhain yn cael eu datganoli oni bai fod yna refferendwm, ac rydych chi i gyd wedi torri eich gair.
Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans.
Rwy'n gwerthfawrogi'r eironi, wrth gwrs, ym mhrotestiadau Mark Reckless am fethu ag ymladd etholiad ar sail rhywbeth sydd mewn maniffesto. Ond rwy'n credu y byddaf i'n ymateb i'r pwyntiau hynny sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r rheoliadau a roddir gerbron yr Aelodau heddiw.
Rwy'n cytuno â Nick Ramsay, a oedd yn awgrymu mai cynnig byr iawn yw hwn mewn gwirionedd ar gyfer rhywbeth sy'n hynod o bwysig. Mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n parhau i gydnabod hynny yn y Senedd. Mae ef yn iawn hefyd i ddweud na fydd pobl, yn gyffredinol, yn sylwi ar unrhyw newid, yn yr ystyr y byddan nhw'n parhau i dalu'r un gyfradd o dreth incwm, ond yr hyn y byddan nhw'n sylwi arno yw'r cod C wrth eu rhif yswiriant gwladol nhw. Mae tua 97 y cant o drethdalwyr yn defnyddio'r cod cywir erbyn hyn, ac wrth gwrs mae gan gyllid a Thollau ei Mawrhydi raglen addysg a chydymffurfiaeth sy'n mynd rhagddi i fynd i'r afael â'r problemau hyn â'r cod C. Mae yna erthyglau yn ei fwletinau rheolaidd i gyflogwyr, er enghraifft, ac mae'n gwneud llawer iawn o waith. Mae'n hyderus y dylai nifer y gwallau leihau eto cyn y sgan nesaf, a fydd yn digwydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rydych chi'n iawn i ddweud mai cynnig byr yw hwn, ac rwy'n gallu deall hynny, o ystyried nad oes fawr ddim am newid eleni. Rwy'n dychmygu, mewn cynigion ar dreth incwm yn y dyfodol, pe byddai newidiadau yn y cyfraddau treth, mae'n debyg y bydd yna ddadl fwy tanbaid ac mae'n debyg y bydd angen ychydig mwy o amser. Mae'n siŵr mai neges yw honno sy'n fwy perthnasol i chi'r Trefnydd nag i chi'r Gweinidog Cyllid.
Rwy'n siŵr, yn y dyfodol, y bydd llawer iawn o ddadlau ynghylch cyfraddau treth incwm yng Nghymru oherwydd, wrth gwrs, er mai addewid oedd hon i beidio â chodi treth incwm yn ystod y tymor Seneddol hwn, fe fydd yn sicr yn fater o ddiddordeb arbennig, yn fy marn i, wrth inni sefyll gerbron yr etholwyr ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd, o ran pennu'r hyn y gallai ein gwahanol bleidiau ei gynnig i bobl Cymru.
Fe godwyd y pwynt unwaith eto pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n gweithio i ddatblygu sylfaen dreth i Gymru. Wrth gwrs, nid mater i'r Gweinidog Cyllid yn unig yw hwnnw, mewn gwirionedd; mae'n fater i bawb ohonom ni yn y Llywodraeth i gyd. Felly, mae yna waith pwysig i'w wneud ym maes tai, o ran sgiliau, ac mewn meysydd eraill o Lywodraeth i sicrhau ein bod ni'n gosod y sylfaen dreth honno ledled Cymru.
Hefyd, mae'n bwysig cydnabod y gwaith pwysig a wnawn ni o ran rhagolygon. Gwn fod hwn wedi bod yn fater o ddiddordeb i'r Pwyllgor Cyllid. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi bod yn ymgymryd â rhywfaint o waith, ac fe ddisgwylir i'r rhagolwg a gyhoeddir ochr yn ochr â'n cyllideb derfynol ni, sy'n gosod y cyfraddau ar 10c i bob band, godi £2.2 biliwn yn 2020-21. Ac wrth gwrs, fe fydd gennym ni'r ffigurau alldro terfynol wedyn ymhen blynyddoedd i ddod, ac fe fyddai unrhyw daliadau cysoni yn cael eu gwneud bryd hynny. Felly, dim ond megis dechrau taith gyffrous iawn yw hyn, ac fe fyddaf i'n ddiolchgar am gefnogaeth gan yr Aelodau i'r rheoliadau hyn heddiw.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe ohiriwn ni'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.