Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 3 Mawrth 2020.
Gadewch imi droi at lywodraeth leol yn gyntaf. Rydym yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith bod cyllideb llywodraeth leol wedi codi 4.3 y cant, ond mae lefelau cyllid ein cynghorau ni’n dal yn 13 y cant yn is mewn termau real o’u cymharu â chyllideb 2010-11, ac mae’r cynnydd yn is, wrth gwrs, na’r hyn yr oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei ddweud oedd ei angen ar awdurdodau lleol ond i sefyll yn eu hunfan a chynnal gwasanaethu. Felly, mae ein gwasanaethau’n mynd i ddioddef eto, ac mae’r pwysau ar dreth gyngor yn parhau, ac rydym yn gwybod mai’r tlotaf mewn cymdeithas sy’n cael eu taro fwyaf caled.
Mae’n siomedig hefyd mai prin iawn ydy’r newid rhwng y gyllideb ddrafft a’r cynlluniau terfynol sydd rŵan o’n blaenau ni. Yn y gyllideb ddrafft, mi oedd yna ychydig dros £100 miliwn o gyllid adnoddau ffisgal—'unallocated fiscal resource funding’. Onid oedd hwn yn gyfle rŵan i roi cyfran o hwn i lywodraeth leol ar ben y cynlluniau drafft? Ac, wrth gwrs, mae llywodraeth leol yn chwarae rhan cwbl, cwbl allweddol mewn gwasanaethau ataliol, popeth o addysg i adnoddau hamdden a chwaraeon, gwasanaethau cymdeithasol—y pethau yna sydd yn ein galluogi ni i drio cadw pobl allan o’r gwasanaeth iechyd mwy drud ac atal problemau mwy hirdymor rhag datblygu.
At dlodi nesaf. Mae lefelau tlodi yng Nghymru’n dal yn gywilyddus o uchel, a dwi’n methu â gweld y dystiolaeth o newid gêr yn agwedd y Llywodraeth yn fan hyn. Ac nid yn unig mae o y peth iawn i’w wneud, i roi camau cyllidol gwirioneddol arloesol mewn lle i daclo tlodi, ond rydym ni’n amcangyfrif bod delio â thlodi yn costio rhyw £3.6 biliwn yn flynyddol i Lywodraeth Cymru. Felly, mae e’n gwneud synnwyr economaidd i daclo tlodi hefyd, yn ogystal â bod yn iawn yn foesol. Wrth gwrs, nid gan Lywodraeth Cymru mai’r holl lifers sydd eu hangen i waredu tlodi, ond mae yna lawer y gall gael ei wneud, ac mae’r gyllideb yn arf allweddol.
Does gen i ddim amser i fynd i gymaint o fanylion ag yr hoffwn i, ond er enghraifft, rydym ni’n gweld y Llywodraeth yn cefnogi, mewn egwyddor, gwaith y Comisiwn Gwaith Teg, ond dwi ddim yn gweld tystiolaeth yn y gyllideb yma o le mae hynny’n cael ei weithredu yn ymarferol. Mae methiannau'r wladwriaeth les, wrth gwrs, yn ffactor arall mewn cynnal tlodi. Ydy, mae hwnnw'n faes sydd heb ei ddatganoli, ond os ydyn ni'n edrych ar rywbeth fel tai, mae tai yn sicr wedi eu datganoli. Ac rydym ni'n gweld diffyg parodrwydd i fod yn progressive, os liciwch chi, yn y gyllideb yma pan mae'n dod at dai.
Mewn trafnidiaeth, er enghraifft, rydyn ni'n gweld £179 miliwn i drenau Trafnidiaeth Cymru, sy'n grêt ynddo fo'i hun, ond mae hynny dair gwaith cymaint â sydd yn mynd i fysus. Yn yr un modd, mae rhoi £62 miliwn i Gymorth i Brynu ar gyfer nifer gymharol fach o bobl, sy'n help mawr i'r bobl hynny a does dim byd yn bod efo'r syniad, mae hwnnw'n ymddangos yn lot fawr o'i gymharu efo dim ond £188 miliwn mewn grant tai cymdeithasol ar gyfer yr holl filoedd o bobl sydd wir angen help.
Mi wnaf i gloi, achos rydw i'n ymwybodol bod y cloc yn fy erbyn i, drwy droi at yr argyfwng hinsawdd hefyd. Do, mi wnaeth y Gweinidog droi at newid hinsawdd a'r llifogydd ac ati ar ddechrau ei haraith hi, ond does yna'n dal ddim digon o dystiolaeth, dwi'n meddwl, fod yna newid cyfeiriad sydd wirioneddol yn adlewyrchu'r argyfwng hinsawdd yr ydym ni i gyd, fel Senedd a chithau fel Llywodraeth, wedi ei ddatgan yn fan hyn. Unwaith eto, methiant i weld os ydy'r arian sy'n cael ei wario yn cael ei wario mor effeithiol â phosib. Hynny ydy, £29 miliwn i fflyd o fysus trydan. Rydw i'n frwd iawn dros gerbydau trydan, fel rydych chi'n ei wybod, ond rydyn ni'n methu gweld os mai dyna'r ffordd orau o wario £29 miliwn fel rhan o'r ymdrech i daclo'r argyfwng hinsawdd.