Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 3 Mawrth 2020.
I gloi, gadewch imi ofyn hyn: a yw'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn credu y bydd y gyllideb hon yn newid bywydau pobl Cymru mewn modd arwyddocaol erbyn cyfnod y gyllideb nesaf? Ai hon yw'r gyllideb sy'n mynd i ddechrau gwyrdroi pethau i Gymru? Mae arnaf i ofn na fydd hynny'n wir; dyna pam y byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon heddiw. Mae angen cyllideb arnom ni, mae angen Llywodraeth arnom ni, sy'n ceisio gwella bywydau pobl Cymru yn sylweddol ac yn faterol, a dyna sy'n ysgogi Plaid Cymru.