Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 3 Mawrth 2020.
Rydym ni'n disgwyl i'r costau sy'n gysylltiedig ag adferiad yn y tymor hwy fod yn rhai sylweddol. Yn dibynnu ar y raddfa, mae'n annhebygol y gallwn ni, yn ôl pob rheswm, amsugno cost y gwaith sy'n ofynnol o fewn y cyllidebau presennol, yn enwedig o ystyried y £100 miliwn o ostyngiad yn y cyfalaf cyffredinol yr ydym ni newydd ei weld. Dyna pam rwyf wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn gofyn am gymorth ariannol ychwanegol y tu allan i'r broses Barnett arferol. Rwy'n croesawu'r awgrym y bydd cyllid ychwanegol ar gael i Gymru gan Lywodraeth y DU, ond fe arhoswn ni i weld y manylion llawn o ran pa gymorth a gaiff ei roi'n ymarferol. Fe fyddwn i'n disgwyl gwneud dyraniadau pellach i ategu'r adferiad wedi'r llifogydd yn y gyllideb atodol gyntaf.
Mae'r stormydd a welsom yn ystod yr wythnosau diwethaf yn amlygu canlyniadau sylweddol y newid yn yr hinsawdd. Drwy gydol y broses hon o graffu ar y gyllideb ddrafft, mae'r Aelodau wedi mynegi pryder am effaith newid hinsawdd. Yn ddiamau, mae ymdrin ag argyfwng yr hinsawdd yn flaenoriaeth i holl Lywodraeth Cymru. Ym mis Mai y llynedd, y Senedd hon oedd y Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Yn dilyn hynny, fe wnaethom ni fabwysiadu, a hynny'n ffurfiol, gyngor ein hymgynghorydd statudol ar newid hinsawdd, Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sy'n ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru 95 y cant dros y 30 mlynedd nesaf.
Dyma'r gyllideb gyntaf ers inni ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae'n darparu ar gyfer pecyn newydd o fwy na £140 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi ein huchelgais ni i ddatgarboneiddio ac amddiffyn ein hamgylchedd gogoneddus. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn teithio llesol a fflyd o fysiau trydan; ffyrdd newydd o adeiladu tai; gwella ein safleoedd ecolegol pwysicaf; a datblygu coedwig genedlaethol, i ymestyn o Fôn i Fynwy. Mae'r pecyn hwn o fuddsoddi yn gam pwysig ymlaen ar ein taith ni tuag at Gymru wyrddach.
Yn y gyllideb ddrafft, roeddem ni'n cydnabod mai'r perygl mwyaf i'n cymunedau ni, yn sgil newid hinsawdd, yw'r stormydd, y llifogydd a'r erydu arfordirol mwyaf dyrys yr ydym ni eisoes yn eu gweld. Yn y gyllideb hon, rydym yn ymrwymo £64 miliwn yn 2020-21 i amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau mwyaf difrifol ac uniongyrchol newid hinsawdd, ac fe fyddwn ni'n adolygu'r cyllid yn rheolaidd ac yn sicrhau bod mwy o arian ar gael pe byddai angen.
Mae'n dal yn aneglur ar hyn o bryd beth fydd cyllideb y DU ar 11 Mawrth yn ei roi i Gymru. Os na welwn ni unrhyw ostyngiad mewn cyllid refeniw o gyllideb y DU, fe fyddaf i'n ceisio gwneud nifer fechan o ddyraniadau pellach yn 2020-21 yn y gyllideb atodol gyntaf. Er bod adnoddau prin yn cyfyngu arnyn nhw, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y meysydd hynny lle mae'r dystiolaeth yn dangos y gallwn gael yr effaith fwyaf. Yn ystod y gwaith craffu, mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch cyllid i'r grant cymorth tai a digartrefedd. Mae tai yn un o'n wyth maes blaenoriaeth trawsbynciol ni. Yn y gyllideb hon, fe ddyrannwyd £175 miliwn ychwanegol i gefnogi ein hanghenion ni o ran tai. Rydym yn dymuno cael cartref i bawb sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus. Dyna pam yr wyf i'n dymuno rhoi arwydd nawr y byddaf i'n sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer y ddau faes hyn y flwyddyn nesaf, os byddaf i mewn sefyllfa i wneud hynny ar ôl cyllideb y DU. Dyma hefyd pam rydyn ni'n bwrw ymlaen â'n cynlluniau ni ar gyfer is-adran tir newydd yn Llywodraeth Cymru, a fydd yn hyrwyddo cydweithio rhwng cyrff y sector cyhoeddus i ddatgloi posibiliadau ein tir cyhoeddus ni ar gyfer datblygiadau tai.
Mater pwysig arall a godwyd yn ystod y craffu oedd cyllid ar gyfer bysiau. Mae gwasanaethau bysiau ledled Cymru yn bwysig o ran bod addysg, hyfforddiant, gwaith a gofal iechyd yn hygyrch i bobl ac yn caniatáu i bobl fwynhau cael mynd am dro ar y bws. Maen nhw'n gyswllt hanfodol rhwng ein cymunedau ni ac yn offeryn pwysig i gefnogi economi ffyniannus. Mae hyn yn arbennig o wir yn ein cymunedau gwledig ni ac i'r bobl hynny sy'n dibynnu fwyaf ar y gwasanaethau hyn. Fel y dywedais yn y Pwyllgor Cyllid, fe fyddwn ni'n parhau i adolygu hyn ac fe fyddaf i'n ystyried gwneud dyraniadau ychwanegol yn y maes hwn yn sgil ein setliad terfynol ar gyfer 2020-21.
Gan gydnabod ei bod yn hanfodol datgarboneiddio trafnidiaeth ffyrdd i gyflawni ein nod sero net, rydym yn cymryd camau i'w gwneud hi'n haws i bobl wneud llai o deithiau mewn car a defnyddio dulliau eraill o deithio. Yn ogystal â buddsoddi mewn mathau newydd o drafnidiaeth, mae angen inni gyflawni ein rhwymedigaethau statudol hefyd i gynnal ein hasedau presennol ni o ran ffyrdd, i ganiatáu i bobl a nwyddau fynd a dod yn ddiogel, i atal y risg o ddamweiniau, i wella cysylltedd a hygyrchedd addysg, sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae'r gyllideb cynnal a chadw o fwy na £150 miliwn yn cynnwys £15 miliwn yn ychwanegol yn 2020-21. Fodd bynnag, mae degawd o gyni ariannol Llywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar gynnal a chadw rhwydwaith ffyrdd y DU. Yng Nghymru, mae tagfeydd traffig ar y ffyrdd wedi gwaethygu oherwydd £1 biliwn o danariannu'r seilwaith trafnidiaeth gan Lywodraeth y DU, a'r methiant i drydaneiddio'r prif reilffyrdd yn y gogledd a'r de, gan arwain at fwy o draffig ar ein cefnffyrdd ni. Felly, rwy'n ystyried bod cynnal a chadw ein rhwydwaith ffyrdd ni'n flaenoriaeth arall i gyllid ychwanegol, yn enwedig am y rhesymau o ran diogelwch a amlinellais.
Felly, i gloi, mae'r gyllideb derfynol hon yn cyflawni'r addewidion a wnaethom ni i bobl Cymru. Mae'n codi ein buddsoddiad ni yn GIG Cymru hyd at £37 biliwn yn ystod y tymor Seneddol hwn, ac yn rhoi buddsoddiad newydd i helpu i ddiogelu dyfodol ein daear ni. Er gwaethaf yr heriau y gwnaethom ni eu hwynebu o ganlyniad i natur anrhagweladwy ac anhrefn Llywodraeth y DU, rwy'n falch ein bod ni wedi sefyll yn gadarn o blaid ein cynlluniau ni i wireddu ein haddewidion i bobl Cymru a darparu sicrwydd ariannol. Ac rwy'n cymeradwyo'r gyllideb derfynol i'r Senedd.