Y Diwydiant Bwyd a Diod yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:30, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf y diwydiant bwyd a diod ledled Cymru gyfan. Rydym bellach wedi cyflawni trosiant o £7.473 biliwn i’r diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru. Mae hyn yn llawer uwch na'r targed heriol o £7 biliwn a osodwyd gennym i ni ein hunain a'r sector yn ôl yn 2014.