1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 4 Mawrth 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant bwyd a diod yng ngogledd Cymru? OAQ55170
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf y diwydiant bwyd a diod ledled Cymru gyfan. Rydym bellach wedi cyflawni trosiant o £7.473 biliwn i’r diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru. Mae hyn yn llawer uwch na'r targed heriol o £7 biliwn a osodwyd gennym i ni ein hunain a'r sector yn ôl yn 2014.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai yng Nghymru, bûm yn ymweld yn ddiweddar â nifer o fragdai annibynnol gydag Aelodau o bob rhan o’r Siambr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda llawer mwy o ACau i hyrwyddo cwrw a seidr Cymru yn eu hetholaethau. Weinidog, mae'r materion a gafodd eu dwyn i fy sylw yn cynnwys cymorth i fanteisio'n llawn ar gyfleoedd unigryw i hyrwyddo cwrw Cymru ledled y byd—cyfleoedd fel Cwpan Rygbi'r Byd a'r chwe gwlad, sy'n cyd-daro ag wythnos gwrw Cymru. Ac mae nifer o fragdai a bragwyr wedi dwyn cynllun dychwelyd blaendal yn y dyfodol i fy sylw, cynllun y gwn ei fod yn gyfrifoldeb i’r Dirprwy Weinidog. Fodd bynnag, mae eich adran yn gweithio'n uniongyrchol gyda chynhyrchwyr drwy glwstwr bwyd a diod Cymru. Felly, Weinidog, a allwch fy sicrhau bod eich adran yn gweithio'n agos ag adran y dirprwy Weinidog, a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, i gefnogi a hyrwyddo diwydiant bragu Cymru yn y dyfodol?
Diolch i chi, ac roeddwn yn falch iawn o ymweld â Wrexham Lager gyda chi yn rhinwedd eich swydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai. Ac rwy'n credu bod Wrexham Lager yn enghraifft glasurol, mae’n debyg, o gwmni sy’n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd, a phan oedd Cwpan Rygbi'r Byd yn mynd rhagddo yn Japan, rwy'n credu eu bod wedi gorfod anfon cyflenwadau ychwanegol ar dri achlysur oherwydd ei fod mor boblogaidd allan yno. Gallaf eich sicrhau bod fy adran yn gweithio'n agos gydag adrannau eraill o’r Llywodraeth. Rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Fe sonioch chi am y cynllun dychwelyd blaendal. Mae gwaith yn datblygu ar hynny. Mae'n cael ei ddatblygu fel prosiect ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth Gogledd Iwerddon.
Yn ôl ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi'r ymatebion i ymgynghoriad cychwynnol ar y cynigion ar gyfer cynllun i Gymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ac unwaith eto, roedd yr ymatebion a ddaeth i law i’r ymgynghoriad hwnnw yn gadarnhaol dros ben. Rwyf hefyd yn rhoi cyllid tuag at y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn eich etholaeth ar gyfer datgarboneiddio mewn perthynas â'r sector bwyd a diod yn ei gyfanrwydd, ac yn amlwg, mae llai o ddeunydd pacio yn un maes rydym yn edrych arno’n benodol.
Gallem i gyd gael gwledd wych gyda'r cynnyrch bwyd a diod da sy'n dod o Aberconwy. Mae gennym jin, gwin, cig, bwyd môr, caws, siocled a chymaint mwy i'w gynnig, cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau, felly mae'n dangos y potensial anhygoel sydd i dwristiaeth bwyd yn Aberconwy, a ledled gogledd Cymru yn wir. Nawr, yn ôl y 'Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd i Gymru 2015-20', mae twristiaeth bwyd yn ymwneud â helpu ymwelwyr i ddatgelu ein trysorau coginio lleol, nid gadael i ymwelwyr ddod ar eu traws ar hap. Nodwyd pum peth allweddol, a chyflwynwyd syniadau diddorol, megis datblygu gwefan twristiaeth bwyd i gwsmeriaid. Weinidog, a ydych chi wedi meddwl am adeiladu ar hyn trwy greu llwybrau bwyd, a hynny ar sail etholaethau ledled Cymru o bosibl? Diolch.
Rydym yn sicr wedi edrych ar lwybrau bwyd, ac rydym wedi edrych hefyd ar lwybr gwin, oherwydd, unwaith eto, mae'r diwydiant gwin yng Nghymru yn ffynnu o ddifrif, buaswn yn dweud; rwy'n credu bod gennym oddeutu 15 o winllannoedd ym mhob cwr o Gymru erbyn hyn. Felly, rydym yn sicr wedi edrych ar lwybr gwin. Nid wyf yn siŵr a ydym wedi edrych ar lwybrau bwyd fesul etholaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud serch hynny, mewn perthynas â thwristiaeth bwyd—ac fe sonioch chi am jin, a thybiaf eich bod yn cyfeirio at Aber Falls—roeddwn yn Aber Falls tua phythefnos yn ôl, ac maent yn adeiladu canolfan ymwelwyr wych, lle maent yn gobeithio dod â busnesau eraill i mewn, nid yn unig busnesau bwyd a diod, ond busnesau eraill hefyd i weithio oddi yno. Felly, rwy’n credu bod twristiaeth bwyd yn cynnig llawer o gyfleoedd, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru gyfan.