Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 4 Mawrth 2020.
Mi fues i ddoe mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar goetiroedd, coedwigaeth a phren ac mi dynnwyd sylw at y ffaith mai un o'r coed sydd â rôl fwyaf allweddol i'w chwarae pam fo'n dod i daclo llifogydd yw coed ynn, oherwydd y lefelau uchel o ddŵr sy'n cael eu dal gan wreiddiau y math arbennig yna o goeden.
Nawr, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod bod yna lawer o goed ynn yn marw ar hyn o bryd oherwydd clefyd coed ynn. Ond, ar yr un pryd, rwy hefyd yn deall nad yw'r grŵp strategol ar glefyd coed ynn wedi cwrdd ers mis Gorffennaf y llynedd. Felly, mae yna bron i naw mis ers i'r grŵp yna ddod at ei gilydd. Nawr, o gofio pwysigrwydd coed ynn o ran mynd i'r afael â phroblemau llifogydd ond hefyd, yn bwysig iawn, y risg i ddiogelwch y cyhoedd o fod yn gweld coed ynn yn dymchwel ac yn marw ac yn disgyn, pam nad yw'r grŵp yna wedi cwrdd ers cyhyd? Pa mor o ddifrif mae'r Llywodraeth yn cymryd y sefyllfa clefyd coed ynn, a beth, yn wir, yw'r camau nesaf rŷch chi am eu cymryd o ran mynd i'r afael â'r clefyd hwnnw?