Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 4 Mawrth 2020.
Weinidog, fe wnaeth y tirlithriad diweddar yn Tylorstown yng nghwm Rhondda ennyn atgofion torcalonnus o’r trychineb ofnadwy a ddigwyddodd yn Aberfan yn 1966. Y llynedd, cyhoeddwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi contract pum mlynedd i'r Awdurdod Glo i archwilio tomenni a chwareli yn ne Cymru. Yn y pen draw, yr ateb gorau yw cael gwared ar y tomenni hyn yn gyfan gwbl. Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r Awdurdod Glo a Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â chael gwared ar y malltod hwn oddi ar dirwedd Cymru?