Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 4 Mawrth 2020.
Credaf eich bod yn llygad eich lle, roedd yn sicr yn emosiynol iawn. Pan ymwelais â Tylorstown gyda'r Prif Weinidog, ni allech osgoi meddwl am yr adeg ofnadwy honno. Yn sicr, wrth siarad â thrigolion, roedd yn amlwg yn rhywbeth roeddent yn meddwl amdano, a dyna pam ei bod mor bwysig fod y Prif Weinidog wedi cyfarfod mor fuan â'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafwyd y trafodaethau hynny yn y cyfarfod hwnnw. Credaf fod hynny’n rhywbeth y gwnaethom ei ystyried. Credaf ei bod yn bwysig iawn, efallai, fod gennym un corff sy'n goruchwylio'r rhain oll, yn hytrach na'r ffordd wasgaredig y mae pethau'n digwydd ar hyn o bryd y cyfeiriodd Mark Reckless ati yn ei gwestiwn agoriadol. Fel y dywedais, mae hwn yn waith rydym yn ei wneud ar frys er mwyn gallu dod â—. Yn amlwg, bydd y Prif Weinidog yn awyddus i adrodd i'r Aelodau.