Niwsans Llwch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:06, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd y Gweinidog yn cofio fy mod, ar sawl achlysur, wedi codi materion sy'n ymwneud â gweithrediadau ar Fferm Gelliargwellt Uchaf yng Ngelligaer yn fy etholaeth, a'r gwaith sy'n cael ei wneud o dan faner Bryn Group, sef y busnes yno. Mae'r safle sy'n cael ei redeg gan Bryn Group yn cynnwys chwarel ar gyfer cyflenwi agregau, ac o'r herwydd, mae ffrwydro'n digwydd yn rheolaidd. Rwy'n cael llawer o gwynion gan drigolion am niwsans llwch a dirgryniadau ar draws cymuned Gelligaer. Mae llwch yn sgil-gynnyrch sy'n peri niwsans, ac mae trigolion yn teimlo'n gryf ei fod yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac ar eu bywydau. Mae hefyd i'w weld ym Maenor Llancaiach Fawr gerllaw, felly mae cwestiwn yn codi ynglŷn â'i effaith ar dwristiaeth hefyd.

Deallaf mai Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yw'r Ddeddf y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyfeirio ati wrth ystyried cymryd camau yn erbyn cwynion niwsans statudol, ac nid yw'r Ddeddf honno'n darparu digon o bŵer i fynd i'r afael â'r materion hyn yng nghymuned Gelligaer. Felly, a yw'r Gweinidog yn teimlo bod angen newid deddfwriaethol fel y gall awdurdodau lleol fynd i'r afael yn fwy effeithiol ag effaith niwsans llwch, ac yn enwedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn yr achos hwn, er mwyn ymdrin â'r broblem gynyddol hon?