Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 4 Mawrth 2020.
Nid wyf wedi cael unrhyw gyngor fod angen edrych ar y ddeddfwriaeth honno neu ei hadnewyddu. Yr hyn y cefais sicrwydd yn ei gylch yw bod swyddogion o dîm iechyd yr amgylchedd cyngor Caerffili yn ymateb i bob cwyn. Gwn fod cynllun lliniaru llwch i'w gael ar gyfer y safle. Gwn hefyd fod cyngor Caerffili a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael llawer o gwynion am y safle hwn. Mae'r cyngor hefyd wedi cynnal gwaith monitro llwch cyfnodol yng nghymunedau Penybryn a Gelligaer. Maent wedi cofnodi lefelau llwch sy'n nodweddiadol o lefelau amgylchynol, ac fel rhagofal, maent hefyd wedi gosod monitor PM10 parhaol yng nghymuned Penybryn, monitor a rennir gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac nid ydynt hwy wedi nodi unrhyw bryderon. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod y pwyntiau penodol hynny, os ydych yn meddwl y byddai hynny o gymorth.