Y Llifogydd Diweddar

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:20, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i chi gael y cais yn gyntaf, cyn ichi basio'r arian ymlaen, ac ni chredaf fod cais wedi'i wneud.

Ond os caf ofyn fy nghwestiwn, y pwynt yr hoffwn ei ofyn yw: cawsom y grŵp trawsbleidiol ar goetiroedd a choedwigaeth ddoe, a bu amryw o Aelodau'n herio rhai o'r arbenigwyr o gwmpas y bwrdd ynghylch pam nad oes mwy o goetiroedd yn cael eu plannu yn rhai o'r ucheldiroedd. Yr ymateb a gafwyd oedd bod rhai o'r rheolau a'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r gwaith o reoli'r ucheldiroedd hynny'n ei gwneud yn anodd, os nad yn amhosibl, plannu coetiroedd yn yr ardaloedd hynny. A fyddech yn cytuno â'r dystiolaeth honno a gyflwynwyd inni ddoe, ac os nad ydych, a wnewch chi fynd ati i annog plannu mwy o goetiroedd ar yr ucheldir, a allai helpu i liniaru peth o'r llifogydd yn is i lawr drwy amsugno mwy o ddŵr ymhellach i fyny'r afon?