Y Llifogydd Diweddar

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:19, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cyllid i Gymru i leddfu effeithiau trychineb llifogydd a addawyd gan Brif Weinidog y DU pan ddywedodd yn y Senedd wythnos yn ôl fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio hyd eithaf ein gallu gyda gweinyddiaeth ddatganoledig Cymru er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cymorth llifogydd sydd ei angen arnynt. A bydd yr arian hwnnw, wrth gwrs, yn sicr o gael ei basportio drwodd.

A ydych wedi cael unrhyw arian wedi'i basportio drwodd i chi?