Niwsans Llwch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:09, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae llwch o weithfeydd Kronospan wedi bod yn weladwy ar geir a ffenestri pobl yn y Waun ers blynyddoedd lawer, ac mae'r trigolion lleol yn pryderu'n fawr am yr effaith y mae anadlu'r llwch hwnnw'n fwy hirdymor yn ei chael ar eu hiechyd. Y gronynnau mwy yn unig y mae gwaith monitro gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn eu mesur, y gronynnau PM10, ac nid oes unrhyw beth ar waith i fesur y gronynnau PM2.5 llai o faint, a all fynd i mewn i'r ysgyfaint, a'r cemegion sy'n gysylltiedig â'r gweithfeydd, fel fformaldehyd. Oherwydd hyn, mae'r trigolion lleol yn poeni bod eu hiechyd yn mynd i ddioddef yn y tymor hir, ond yn enwedig iechyd eu plant mewn ysgolion cyfagos hefyd. Felly, pryd y bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod iechyd a diogelwch trigolion mewn lleoedd fel y Waun yn cael eu diogelu drwy wella'r gwaith monitro ar gyfer y cemegion a'r gronynnau llai, a sicrhau bod y gwaith monitro hwnnw'n digwydd mewn modd agored a thryloyw?