Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwyf wedi dewis y pwnc 'Ai clefyd yw gordewdra? ' (a) oherwydd ei bod hi'n Ddiwrnod Gordewdra'r Byd heddiw, (b) oherwydd bod y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn adrodd heddiw fod lefelau gordewdra'n parhau i gynyddu, ac mae'n dal yn wir fod dros un o bob pedwar o blant pedair a phump oed yn ordew—ffaith eithaf damniol a sobreiddiol. Ac yn drydydd, pan gyfarfûm â Novo Nordisk yr wythnos diwethaf—cwmni fferyllol sy'n fwyaf adnabyddus am eu gwaith ar ddiabetes—gofynnwyd i mi a oeddwn yn ystyried bod gordewdra yn glefyd, a dywedais y byddai angen i mi feddwl am hynny a dod yn ôl atynt. Y rheswm pam fy mod yn gyndyn i ateb oedd nad oeddwn am feddyginiaethu'r hyn rwyf bob amser wedi'i weld fel problem gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd, wedi'i chreu gan ddiwydiant bwyd sy'n tueddu i achosi gordewdra, a thra-arglwyddiaeth y car dros y 60 mlynedd diwethaf.
Felly, beth yw gordewdra? Efallai ei bod braidd yn anodd i chi ddarllen ond rwy'n ddiolchgar iawn i Rachel Batterham, sy'n athro gordewdra yng Ngholeg Prifysgol Llundain, am ganiatáu i mi ddefnyddio rhai o'r sleidiau o'i chyflwyniad diweddar i Goleg Brenhinol y Meddygon sef y sefydliad a arweiniodd y ffordd, fel y cofiwch o bosibl, o ran sicrhau'r gwaharddiad ar ysmygu, ac sydd hefyd yn ymgyrchu'n galed iawn ar gael gwaharddiad i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r diwydiant alcohol yn ogystal. Felly, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn sefydliad pwysig. Beth bynnag, y diffiniad o ordewdra, sy'n broblem fyd-eang, yw clefyd lle mae braster gormodol wedi cronni yn y corff i'r fath raddau fel y gall niweidio iechyd.
Nid anghyfleustra'n unig ydyw—mae gordewdra'n byrhau hyd oes rhwng tair a 10 mlynedd. Mae gordewdra'n atal pobl rhag byw'n dda, ac rydym yn gwario 10 y cant o gyllideb y GIG ar gefnogi pobl sydd â diabetes. Efallai na fyddwch yn gallu darllen y sleid, ond nid diabetes math 2 yn unig y mae'n ei achosi, ond clefyd cardiofasgwlaidd, strôc, pwysedd gwaed uchel, clefyd rhydwelïau coronaidd, a methiant y galon, a llawer o bethau eraill heblaw hynny, gan gynnwys anffrwythlondeb, anymataliaeth, iselder, gorbryder ac asthma.
Ychydig o bobl a fyddai'n dadlau, felly, yn erbyn yr angen i leihau gordewdra, o ystyried ei effaith yn bygwth bywydau. Yn wir, mae ganddo'r gallu, yn fy marn i, i orlethu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Nawr, mae'n ymddangos bod yr ateb yn syml: os ydym yn bwyta llai ac yn gwneud mwy o ymarfer corff, cawn gydbwysedd cywir o egni, a byddwn yn cario'r pwysau cywir ar gyfer ein maint. Yn y 1940au, y cyngor iechyd oedd cysgu o leiaf wyth awr y dydd, sicrhau eich bod yn cael amser hamdden—h.y. rhywbeth sy'n newid llwyr o'ch gwaith bob dydd, ar gyfer y corff a'r meddwl—y meintiau cywir o'r bwyd cywir, ac ymarfer corff rheolaidd. A hynny yn ystod yr ail ryfel byd, pan oedd y boblogaeth ar ei mwyaf iach—ond dogni oedd y rheswm am hynny. Ond gallwn weld bod y dirwedd wleidyddol, gymdeithasol ac economaidd wedi dirywio'n aruthrol ers y 1940au, a bod lefelau gordewdra'n parhau i godi a chodi. Faint ohonom sy'n glynu at fantra'r 1940au heddiw, mewn byd nad yw byth yn cysgu?
Felly, y cwestiwn sy'n rhaid inni ei ofyn i ni'n hunain yw: a yw'r rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach yn ddigon beiddgar a radical i ymdopi â maint y broblem, a gwrthdroi ein ffordd o fyw obesogenig? Caiff Cymru ei chanmol gan arbenigwyr ar ordewdra am fod yn barod i ddefnyddio deddfwriaeth i newid yr amgylchedd bwyd, mewn cyferbyniad â'r tin-droi a'r oedi ar ben arall yr M4. Rhaid inni atal y diwydiant bwyd rhag targedu plant i fwyta'r pethau anghywir: mae hynny'n gwbl anfoesol. Ac rwyf hefyd yn gobeithio y gallwn ddefnyddio dadreoleiddio bysiau, sy'n dod yn ystod y 12 mis nesaf, fel cyfle hefyd i wahardd hysbysebu bwyd sothach ar drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein cyhyrau caffael cyhoeddus i wahardd bwyd sothach o ganolfannau iechyd ac ysbytai'r GIG, ac rwy'n cymeradwyo bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro am ddangos y ffordd drwy gael gwared ar yr holl fwyd sothach o 13 o'i gaffis a'i ffreuturau ysbyty, a bydd yn ymestyn hyn i gynnwys ei ddau ysbyty cymunedol yn ddiweddarach eleni. Mae'r fenter hon wedi cynyddu nifer eu cwsmeriaid a'u proffidioldeb, ac mae hynny'n dangos y dylai pob bwrdd iechyd ddilyn y llwybr hwnnw, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn cael safon adwerthu genedlaethol ar gyfer ysbytai i hyrwyddo'r dewisiadau iach yn yr holl safleoedd gwerthu ar ystadau'r GIG. Mae Caerdydd a'r Fro wedi datblygu offeryn archwilio i sicrhau mai'r hyn y maent yn dweud eu bod yn ei gyflenwi yw'r hyn sy'n cael ei gyflenwi, sy'n eithaf pwysig o ystyried y byddwch yn costio mwy fyth mewn amser ac arian i'r gwasanaeth iechyd os ydych chi'n bwyta'r bwyd anghywir.