Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 4 Mawrth 2020.
Weinidog, dros y pump i 10 mlynedd nesaf, mae disgwyl i nifer yr aelwydydd un person gynyddu 15 i 20 y cant. Rydym yn gwybod bod gennym eisoes brinder eiddo un ystafell wely o ansawdd da ar gael i'w rentu'n gymdeithasol. Ceir tua 60,000 o unedau tai cymdeithasol un ystafell wely yng Nghymru, ond mae hanner y rhain yn dai â chymorth neu’n dai gwarchod. Weinidog, o ystyried bod mwyafrif yr aelwydydd un person yn y categori dan 65 oed, a bod disgwyl i'r ffigur hwnnw godi, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu nifer yr eiddo un ystafell wely sydd ar gael i'w rentu’n gymdeithasol?