2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 4 Mawrth 2020.
2. Faint o bobl sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol ar draws Cymru? OAQ55160
Diolch am eich cwestiwn. Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu ystadegau ynghylch aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol. Fodd bynnag, gan gydnabod yr angen gwirioneddol, rydym yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Bydd hyn yn cyfrannu at leddfu'r pwysau ar restrau aros.
Mae'n gwbl ryfeddol nad oes gennych chi fel Llywodraeth ddata manwl cenedlaethol am y nifer o bobl sydd yn aros am dŷ cymdeithasol yng Nghymru. O gofio bod hon yn un o'ch blaenoriaethau chi, sef darparu mwy o dai cymdeithasol, sut yn y byd ydych chi'n medru monitro bod eich polisïau chi'n effeithiol os dydych chi ddim yn gwybod un union beth yw'r sefyllfa? Yn Arfon, dwi yn gwybod bod llawer gormod o bobl yn aros am dai cymdeithasol. Maen nhw mewn tai anaddas. Mae'r tai yn rhy fach i anghenion eu teuluoedd nhw. Maen nhw'n damp a chostus o ran biliau, neu mae pobl yn dibynnu ar ewyllys da eu teuluoedd a'u ffrindiau. Neu, wrth gwrs, maen nhw'n gorfod byw ar y stryd achos bod yna ddim digon o dai cymdeithasol.
Mae gan Gyngor Gwynedd, dwi'n gwybod, gynlluniau arloesol i adeiladu mwy o dai cymdeithasol i ddiwallu'r angen yn lleol. Ond, dwi'n gofyn i chi eto: sut fedrwch chi ddarparu digonedd o dai os dydych chi ddim yn gwybod beth yw digonedd o dai yn y lle cyntaf, oherwydd bod y data ddim ar gael?
Ie, wel, rwy'n deall y cysylltiad y mae Siân Gwenllian yn ceisio'i wneud, a rhannaf yr awydd y tu ôl iddo. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r rhestr aros am dai yn arwydd o'r angen am dai fel y cyfryw, gan fod pobl yn mynd ar restrau aros am bob math o resymau. Er enghraifft, efallai y byddant yn awyddus i symud am reswm penodol, ond heb fod angen tŷ mewn gwirionedd. Nid pobl sy'n daer angen tai yn unig rydym yn eu hannog i fynd ar restr aros am dŷ cyngor; bydd rhai pobl nad ydynt 'mewn angen' fel y cyfryw yn awyddus i symud o fewn yr ardal, mae ganddynt resymau heblaw bod mewn cartref anniogel ar hyn o bryd.
Felly, rwy'n cymeradwyo pwynt y cwestiwn, sef sut rydym yn asesu angen, mewn gwirionedd, ledled Cymru. Rydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn monitro, er enghraifft, yr unedau a osodir fel unedau tai cymdeithasol. Felly, ar 31 Mawrth 2019, roedd gan Gymru gyfanswm o 231,408 uned o dai cymdeithasol wedi'u gosod. Cynyddodd nifer yr unedau a osodwyd o'r newydd 4 y cant yn 2018-19 i 21,135, roedd 61 y cant o'r rheini ar y rhestr aros am dai, cynnydd o 2 y cant ers y flwyddyn flaenorol i 12,863 o'r rheini. Gwelwyd cynnydd eto yng nghyfran y gosodiadau i aelwydydd a gafodd eu hailgartrefu ar sail blaenoriaeth am eu bod yn ddigartref, a chynyddodd nifer cyffredinol y mathau o osodiadau 15 y cant ers y flwyddyn flaenorol.
Felly, rydym yn mynd o'i chwmpas hi y ffordd arall; rydym yn gwneud hyn drwy osodiadau yn hytrach na'r rhestr, os ydych chi'n deall yr hyn rwy'n ei olygu. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rydym yn annog rhestrau tai cyfun mewn rhai ardaloedd, gan fod manteision eraill, ar wahân i ddeall yr angen—yn enwedig y ffaith y gallwch wneud un cais mewn ardaloedd sydd â rhestr dai gyfun a chael eich ystyried gan yr holl landlordiaid cymdeithasol. Mae gennym restr gyfun mewn 19 o'r 22 awdurdod lleol. Mae gennym dri awdurdod heb restrau cyfun, ac mae ganddynt drefniadau partneriaeth gwahanol. Yr hyn nad ydym yn dymuno'i weld yw rhywun yn gorfod gwneud cais i lawer o wahanol landlordiaid i gaffael eu cartref cymdeithasol.
Mae gennyf ymchwil yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i edrych ar sut y gallem restru'r angen am dai, yn hytrach na'r bobl sydd am fod ar y rhestr aros am dai. Nid wyf am annog pobl nad ydynt 'mewn angen' rhag mynd ar y rhestrau aros hynny. Ceir nifer fawr o bobl sy'n gwybod, efallai, nad ydynt am gyrraedd y brig mewn system sy'n seiliedig ar bwyntiau, ond sydd, serch hynny, am gofrestru am dŷ cyngor gan fod rhai ohonynt yn dod ar gael mewn amgylchiadau eraill. Felly, mae'r gwaith ymchwil hwnnw ar y gweill gennyf, ac rwy'n gobeithio gallu ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
Ar ôl cyhoeddi ffigurau rhestrau aros am dai cymdeithasol ar gyfer 2018, a oedd yn nodi bod mwy na 16,500 o aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru, cyfeiriodd Shelter Cymru at y sefyllfa fel argyfwng tai. Ond wrth gwrs, yn ystod yr ail Gynulliad, pan rybuddiodd ymgyrch Cartrefi i Bawb Cymru, gan gynnwys Shelter, y byddai argyfwng tai pe na bai Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi ei thoriadau i dai cymdeithasol newydd—mewn gwirionedd, gwelwyd toriad o 70 y cant yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad.
Mae lleddfu'r pwysau ar restrau aros am dai cymdeithasol yn cynnwys—ac rwy'n cytuno â chi ar hyn—cyflenwad mwy o dai fforddiadwy mwy eang, boed hynny drwy renti canolradd neu berchentyaeth cost isel. Pam, felly, y credwch fod ffigurau cofrestredig y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai ar gyfer cartrefi newydd, a gyhoeddwyd fis yn ôl ar gyfer 2019, yn dangos, er i nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd yn Lloegr a'r Alban gynyddu, eu bod wedi gostwng yng Nghymru o 5,448 i 4,769?
Mae hwnnw'n bwnc cwbl wahanol—pwnc adeiladu o'r newydd, nid tai cymdeithasol. Rwy'n rhyfeddu eich bod, ar feinciau'r Ceidwadwyr, yn ein cystwyo am beidio ag adeiladu tai cymdeithasol a chithau heb gael gwared ar gapiau'r cyfrif refeniw tai tan ddiwedd y llynedd, a chawsom ein hatal gennych rhag defnyddio tai a werthir o'r sector cymdeithasol i'r sector preifat—. Cawsom ein hatal gennych rhag defnyddio'r arian hwnnw i adeiladu tai cymdeithasol newydd. Credaf fod eich haerllugrwydd—. Wel, rwy'n fud gan syndod at eich haerllugrwydd, a dweud y gwir—[Chwerthin.]—am awgrymu hynny i mi. Y rheswm pam fod gennym angen dybryd am dai cymdeithasol yw am eich bod wedi gwerthu'r stoc tai cymdeithasol.
Weinidog, mae'r—[Torri ar draws.]
Gwnaethoch ein hatal, drwy gael y cap ar y cyfrif refeniw tai—[Torri ar draws.]
Na. Diolch. Nid ydym am gael hyn ar draws y Siambr. Mae angen i chi fynd drwy'r Cadeirydd, ac rwyf newydd alw ar Aelod arall i siarad—Huw Irranca-Davies.
Rwy'n falch o ddweud nad yw'r Gweinidog erioed wedi bod yn fud. Ond a gaf fi ddweud, nid ydym ni yn Ogwr ar ein pennau ein hunain wrth gael pobl ar y rhestr dai cymdeithasol yn aros am lety am wahanol fathau o unedau, ac ar yr un pryd, mae gennym lawer o eiddo gwag, yn aml uwchben siopau, yn y Cymoedd, y gellid eu troi, gyda'r grantiau sydd bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio, gydag ychydig o feddwl cydgysylltiedig, yn unedau tai cymdeithasol? Felly, sut y mae cyngor fel Pen-y-bont ar Ogwr, arweinydd cyngor fel Huw David, a'i swyddogion, yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i gydgysylltu hyn a dweud, 'Wel, fel awdurdod lleol, gyda chymdeithasau tai eraill, gallwn ddatblygu'r eiddo gwag hyn i'w troi'n gartrefi hyfryd i bobl'?
Ie, rydych yn llygad eich lle, ac mae gennym nifer o enghreifftiau o hynny. Mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, wedi bod ar daith o amgylch Cymru yn edrych ar enghreifftiau amrywiol o ddod â'r union fath hwnnw o eiddo yn ôl i ddefnydd. Ac mae gennym nifer o gynlluniau sy'n caniatáu—. Mewn amgylchiadau lle mae'r eiddo hwnnw'n berchen i'r sector preifat, mae gennym nifer o gynlluniau sy'n caniatáu i'r landlordiaid preifat hynny roi’r eiddo i’w rentu’n gymdeithasol am bum mlynedd, yn gyfnewid am ddychwelyd yr eiddo i safon y gellir byw ynddo ac yn y blaen. Ac mewn cyfarfod diweddar â chyngor Casnewydd, er enghraifft, dangoswyd set o gynlluniau inni yng nghanol Casnewydd, lle gwneir defnydd buddiol o'r eiddo uwchben y siopau unwaith eto. Mae hynny'n darparu cartrefi i bobl, ond mae hefyd yn darparu bywiogrwydd ac ymwelwyr mawr eu hangen â chanol y dref, ac mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn wedi bod yn gwthio ein menter adfywio yng nghanol trefi am yr union reswm hwnnw.
Weinidog, dros y pump i 10 mlynedd nesaf, mae disgwyl i nifer yr aelwydydd un person gynyddu 15 i 20 y cant. Rydym yn gwybod bod gennym eisoes brinder eiddo un ystafell wely o ansawdd da ar gael i'w rentu'n gymdeithasol. Ceir tua 60,000 o unedau tai cymdeithasol un ystafell wely yng Nghymru, ond mae hanner y rhain yn dai â chymorth neu’n dai gwarchod. Weinidog, o ystyried bod mwyafrif yr aelwydydd un person yn y categori dan 65 oed, a bod disgwyl i'r ffigur hwnnw godi, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu nifer yr eiddo un ystafell wely sydd ar gael i'w rentu’n gymdeithasol?
Y system yng Nghymru yw ein bod yn disgwyl i'r awdurdodau lleol wneud asesiad o’r angen am dai, ac yna byddwn yn teilwra ein grant tai cymdeithasol i gyd-fynd â hynny. O ganlyniad i'r adolygiad tai fforddiadwy, rydym yn y broses o edrych eto ar y ffordd rydym yn gweithredu grantiau tai cymdeithasol, ac rwy’n gobeithio gallu cyflwyno datganiad llafar yn manylu ar hynny, Ddirprwy Lywydd, yn sicr cyn toriad yr haf. Felly, rydym wedi derbyn argymhellion yr adolygiad tai fforddiadwy mewn egwyddor, ond rwyf eisiau cyflwyno cynllun gweithredu a fydd yn dweud wrthych sut rydym yn bwrw ymlaen â hynny. A rhan o'r argymhellion, os cofiwch o'r adolygiad hwnnw, oedd ein bod yn edrych eto ar y ffordd roeddem yn gweithredu grantiau tai cymdeithasol, a'n bod yn caniatáu iddo gael ei dargedu'n well at y mathau o aelwydydd a welwn.
Mewn gwirionedd, mae nifer fawr iawn o'r aelwydydd un person yng Nghymru yn fenywod dros 70 oed. Felly, mae angen tai gwahanol iawn ar aelwydydd un person ifanc na'r hyn sydd ei angen ar gyfer aelwydydd hŷn, a threfniadau gwahanol hefyd, felly mae angen i ni gael asesiad da iawn o’r angen am dai. Ond rwy'n cytuno â chi mewn egwyddor; mae angen inni edrych eto a gweld bod ein systemau'n cynhyrchu'r math o dai rydym eu hangen fwyaf.