Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 4 Mawrth 2020.
Weinidog, mae toriadau i gyllid awdurdodau lleol wedi golygu bod cynghorau'n gorfod ailystyried y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau i sicrhau arbedion. Mewn rhai achosion, maent yn rhannu gwasanaethau gydag awdurdodau lleol cyfagos. Fodd bynnag, yn anochel, canolbwyntiodd cynghorau yng Nghymru ar fesurau tymor byr i fantoli eu cyllidebau, yn hytrach na buddsoddi mewn mesurau mwy hirdymor i weddnewid gwasanaethau. Gan nad ydynt yn gwybod beth fydd y setliadau yn y dyfodol, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i roi mwy o sicrwydd i awdurdodau lleol ynghylch setliadau yn y dyfodol er mwyn iddynt ddatblygu cynlluniau ariannol mwy cadarn ar gyfer y tymor canolig, a thrwy hynny, helpu i osgoi'r perygl o ad-drefnu llywodraeth leol, a fyddai'n arwain at gostau uwch i drethdalwyr yng Nghymru?