Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 4 Mawrth 2020.
Cymeradwyaf ddymuniad ac awydd Mohammad Asghar i roi sicrwydd i lywodraeth leol ynglŷn â'u cyllid. Buaswn wrth fy modd pe bai'r Llywodraeth y mae'n ei chefnogi ar lefel y DU yn rhannu'r awydd hwnnw hefyd. Fe fyddwch yn gwybod mai cyllideb un flwyddyn yn unig sydd gennym. Pe baem wedi cael yr adolygiad cynhwysfawr o wariant roedd ei Lywodraeth wedi'i addo inni, ni fyddem yn y sefyllfa honno. Rydym wedi rhoi'r setliad gorau y gallem ei roi i awdurdodau lleol o dan yr amgylchiadau. Fe fydd yn ymwybodol, fel y gweddill ohonom, nad yw ei Lywodraeth hyd yn oed wedi cyflwyno'r gyllideb o fewn y terfynau amser arferol eleni.