Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:37, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Os caf droi at bwnc arall—sy'n destun pryder pwysig iawn—sef a ydych yn bwriadu cyfarfod â'r preswylwyr yn Celestia, y datblygiad tai ar garreg ein drws ein hunain. Cyfarfûm â grŵp ddydd Gwener, a gwn y byddent yn falch o'ch croesawu. Rwy'n credu bod cymhlethdodau'r achos hwn yn ei wneud yn achos prawf. Bydd hygrededd y math hwn o ddatblygiad yn cael ei gwestiynu os na cheir rhyw ateb i'r problemau cymhleth hyn—ac mae llawer ohonynt ymhell y tu hwnt i unrhyw beth y gallai'r preswylwyr ei ragweld. Ond hoffwn wybod a ydych chi'n barod, ac a oes gennych unrhyw gynlluniau, i'w cyfarfod.