2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 4 Mawrth 2020.
Trown yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n codi gyda rhywfaint o anesmwythder, o ystyried y sylwadau ychydig yn ddramatig a gafwyd yn gynharach, ond os caf arfer fy nyletswyddau craffu yma. A yw'r Gweinidog yn dal i gredu y bydd y targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros dymor y Cynulliad yn cael ei gyrraedd? Yn ôl fy nghyfrifiad, mae gennych 6,500 o dai i’w hadeiladu mewn oddeutu 13 mis. A lle mae prinder ar hyn o bryd? A yw'n fwy o ran cartrefi cymdeithasol, neu o ran y cynllun Cymorth i Brynu a chynlluniau tebyg?
Rydym yn disgwyl cyrraedd y targed o 20,000. Mewn gwirionedd, rydym eisoes wedi rhagori ar y rhan ohono a oedd yn dai Cymorth i Brynu ac ati. Fodd bynnag, ar sawl achlysur ar draws y Siambr hon, rwyf wedi ateb cwestiynau'n ymwneud â'r hyn a olygwn wrth 'fforddiadwy.' Ac roedd 20,000 o gartrefi, i raddau helaeth, yn seiliedig ar y diffiniad o fforddiadwy a oedd gennym bryd hynny, ac o ystyried y sylwadau rydym newydd eu cael yn y Siambr, yng ngoleuni'r cap sy’n parhau i fod yn gadarn iawn ar gyfrifon refeniw tai awdurdodau lleol yn eu hatal rhag benthyca ac ail-fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Ers hynny, ers i'r targed gael ei osod, mae hynny wedi newid, ac felly rydym wedi symud ein ffocws yn gadarn iawn tuag at adeiladu'n gyflym ar raddfa fawr ar gyfer tai cymdeithasol am mai dyna'r bwlch mwyaf. Rydym angen tai sector preifat o hyd, ond mae gennym fwy o waith dal i fyny i’w wneud ar dai cymdeithasol nag ar dai yn y sector preifat, ac fe gafodd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, a minnau gyfarfod bywiog ond adeiladol iawn y bore yma gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi i drafod sut y gallai'r ddau sector ddod at ei gilydd a gwneud y gorau o'r cyflenwad tir yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, Weinidog, os cynyddwn y cyflenwad yn sector y farchnad, yn enwedig drwy ddenu mwy o gystadleuaeth a mentrau bach a chanolig, byddem yn gobeithio gweld prisiau tai’n dod yn fwy sefydlog, a byddai hynny, yn y ffordd honno, yn ôl economeg glasurol, yn eu gwneud yn fwy fforddiadwy. Ond, rwy'n credu eich bod yn iawn pan ddywedwch fod llawer o ddryswch ynglŷn â thai fforddiadwy—y categori—oherwydd ei fod yn cymysgu’r sector preifat a’r sector cyhoeddus. Ac rwy'n meddwl tybed a fyddem yn well ein byd pe baem yn newid i ddiffiniad yn awr sy'n canolbwyntio ar dai cymdeithasol, tai i'w rhentu. Ac wrth i bob plaid yn y Siambr hon baratoi eu maniffestos ar gyfer etholiad y flwyddyn nesaf, rwy'n credu ei bod hi'n bryd edrych ar dargedau realistig ond uchelgeisiol ar gyfer tai cymdeithasol yn y 2020au. Ac yn fy marn i, mae angen inni adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn, neu 20,000 dros dymor Cynulliad, yn y 2020au. A ydych yn cytuno?
Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen inni edrych eto ar y diffiniad o 'fforddiadwy', yng ngoleuni'r holl bwerau sydd bellach ar gael inni, ac yng ngoleuni'r angen. Rydych yn llygad eich lle o ran y ffigurau, o ran y tai cymdeithasol sydd eu hangen arnom, ac mae hynny ond yn golygu cyrraedd lle dylem fod. Ac o ran y sgwrs a gefais gyda Siân Gwenllian ynghylch sut rydym yn diffinio’r angen am dai, yr hyn rydym yn sôn amdano yn y ffigurau rydych newydd eu dyfynnu yw cael pobl allan o lety dros dro i mewn i lety parhaol, diogel. Mae'n ddigon posibl bod categorïau eraill o angen nad ydym yn eu diwallu o gwbl ar hyn o bryd, ond y byddem yn hoffi eu diwallu pan fyddwn wedi cael y bobl nad ydynt mewn tai digonol o gwbl ar hyn o bryd i mewn i dai o’r fath. Felly dyna pam ei bod yn anodd taro’r cydbwysedd hwnnw.
Ond mae'n werth archwilio'r diffiniad o 'fforddiadwy', oherwydd nid wyf eisiau—. Er fy mod yn cytuno'n llwyr am dai rhent cymdeithasol, ceir modelau eraill. Ceir modelau cydweithredol a chymunedol o berchentyaeth sy'n werth eu harchwilio, ac y gellir eu gwneud yn fforddiadwy hefyd. Credaf fod angen i'r diffiniad o 'fforddiadwy' fynd y tu hwnt i'r pwynt gwerthu. Felly, mae gennym ddiffiniad o 'fforddiadwy' sy'n cynnwys Cymorth i Brynu, er enghraifft, a chaiff y cartrefi hynny eu gwneud yn fwy fforddiadwy drwy gymhorthdal y Llywodraeth, felly mae hynny'n iawn, ond nid ydynt yn fforddiadwy drwy gydol eu hoes, oherwydd pan gânt eu gwerthu am yr eildro maent yn mynd i'r sector preifat. Felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar rai agweddau, ond yn bendant, mae angen cynnal adolygiad ohono.
Os caf droi at bwnc arall—sy'n destun pryder pwysig iawn—sef a ydych yn bwriadu cyfarfod â'r preswylwyr yn Celestia, y datblygiad tai ar garreg ein drws ein hunain. Cyfarfûm â grŵp ddydd Gwener, a gwn y byddent yn falch o'ch croesawu. Rwy'n credu bod cymhlethdodau'r achos hwn yn ei wneud yn achos prawf. Bydd hygrededd y math hwn o ddatblygiad yn cael ei gwestiynu os na cheir rhyw ateb i'r problemau cymhleth hyn—ac mae llawer ohonynt ymhell y tu hwnt i unrhyw beth y gallai'r preswylwyr ei ragweld. Ond hoffwn wybod a ydych chi'n barod, ac a oes gennych unrhyw gynlluniau, i'w cyfarfod.
Hoffwn yn fawr iawn eu cyfarfod. Rwy'n cael fy nghynghori i beidio â gwneud hynny tan y daw canlyniad eu hapêl, a deallaf yn awr na fydd hynny’n digwydd tan fis Medi eleni. Rwy'n edrych i weld gyda fy swyddogion a allem osod paramedrau ar gyfer y cyfarfod, a fyddai'n fy ngalluogi i'w cyfarfod yn gynharach. Am mai fi yw'r Gweinidog cynllunio, mae yna rai pethau nad oes gennyf hawl i wneud sylwadau arnynt, ond rwy'n siŵr y gallem gael y paramedrau hynny. Mae fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, hefyd wedi gofyn i mi edrych ar hynny. Felly rwy'n hapus iawn i ofyn am fwy o gyngor swyddogol ar hynny.
Ac rydym hefyd yn monitro'r datblygiadau ar lefel y DU yn ofalus iawn. Cafwyd rhai cyhoeddiadau—neu led-gyhoeddiadau—ynghylch pethau fel y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau, Lease, ac ati, sy'n cael eu monitro gennym yn ofalus iawn, oherwydd rydym eisiau sicrhau bod beth bynnag a gyhoeddir ar lefel y DU yn addas at y diben yma yng Nghymru. A gwn fod David Melding yn fwy ymwybodol na neb yn y Siambr o fanylion, neu ymylon carpiog, datganoli mewn perthynas â chyfraith tir a chyfraith eiddo a thai, ac felly rydym yn cerdded ar bigau'r drain i raddau—i gymysgu fy nhrosiadau yn ofnadwy—wrth geisio penderfynu beth yn union y gallwn ei wneud. Ond rydym yn edrych ar gynlluniau gwirfoddol, er enghraifft, ar gyfer asiantau rheoli, a chynlluniau gwirfoddol ar gyfer gwerthwyr tai, y gallwn sicrhau rhyw fath o achrediad ar eu cyfer, er mwyn sicrhau bod pobl yn deall cymaint â phosibl ar y pwynt gwerthu, ac yna, ar ôl hynny, cael rhyw fath o warant barhaus gan y bobl y mae ganddynt gontract â hwy—felly'r adeiladwyr, ac ati. Felly, yn sicr, byddaf yn gofyn am y cyngor hwnnw eto. Ar hyn o bryd, fel y dywedais, rwy'n cael fy nghynghori i beidio â'u cyfarfod tan ar ôl dyddiad yr apêl, a deallaf yn awr mai ym mis Medi 2020 fydd hwnnw.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau i chi ynglŷn â pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i helpu awdurdodau lleol i baratoi i ymdopi â'r achosion o coronafeirws. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ofalwyr cartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. A oes gan y Llywodraeth hyder y bydd gan awdurdodau lleol gapasiti i sicrhau gofal parhaus i bobl sydd ei angen, os bydd y gofalwyr eu hunain yn mynd yn sâl—boed yn berthnasau di-dâl, neu'n weithwyr gofal mewn cartrefi preswyl? Nawr, rwy'n ymwybodol fod cynlluniau wedi'u crybwyll i ddenu gweithwyr iechyd sydd wedi ymddeol yn ol i weithlu'r GIG. A yw hyn yn cael ei ystyried ar gyfer y sector gofal hefyd? Ac yn olaf, a allwch chi gadarnhau y bydd adnoddau ychwanegol ar gael i gynghorau i dalu unrhyw gostau ychwanegol a ddaw yn sgil hynny?
Cawsom gyfarfod arbennig o'r Cabinet y bore yma i drafod parodrwydd ar gyfer yr achosion o coronafeirws, ac roedd yr holl aelodau o'r Cabinet yn bresennol. Rydym wedi bod yn gweithio ers peth amser gyda'r fforymau cydnerthedd lleol a'r awdurdodau lleol i wneud yn siŵr fod gennym y cynllun gorau posibl. Yn amlwg rydym yn cynllunio ar gyfer y canlyniad gwaethaf rhesymol, tra'n gobeithio am y canlyniad gorau posibl, ond mae'n rhaid i chi wneud y ddau beth hynny. Felly, wrth gwrs, rydym wedi trafod pethau fel goblygiadau salwch yn y gwahanol weithluoedd, salwch yn yr awdurdodau lleol, cymorth ar y cyd, yr holl bethau sy'n—. Rwy'n falch iawn o ddweud bod y fforymau cydnerthedd lleol ar y blaen mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer pandemig, nid ar gyfer y feirws penodol hwn, ond cynlluniau ar gyfer pandemig. Mae hynny wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer. Ac felly mae gennym gynlluniau da ar gyfer hynny. Nid ydym eisiau i bobl gynhyrfu'n ddiangen, felly dylent gael sicrwydd fod y cynlluniau hynny'n bodoli. Maent hefyd yn cynnwys nifer fawr o gyrff yn y trydydd sector y gweithiwn gyda hwy'n rheolaidd ar faterion gwasanaethau cyhoeddus—y Groes Goch, cynghorau gwirfoddol ac yn y blaen. Felly, rydym yn sicr yn cynllunio ar gyfer y senario achos gwaethaf rhesymol, gan obeithio'n fawr am y canlyniad gorau posibl.
Diolch ichi am yr atebion hynny, Weinidog. Mae hynny'n galonogol, clywed eich bod wedi bod yn trafod hyn y bore yma yn llythrennol, a bod y cynlluniau ar waith. Yn amlwg, lle mae'n briodol, byddai'n dda cael gweld y rheini, ond rwy'n sylweddoli y bydd rhai pethau na ellir eu rhannu ar yr un pryd.
Fe sonioch chi am salwch yn y gweithlu. Y cyngor a roddir ar hyn o bryd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw y dylai'r rhai sy'n amau bod coronafeirws arnynt roi eu hunain mewn cwarantîn hyd nes y ceir prawf negyddol. Un mater a godwyd yn y Siambr ddoe oedd contractau dim oriau, ond credaf fod y mater hwn hefyd yn berthnasol i'r rheini sy'n hunangyflogedig neu ar gyflogau isel, lle bydd y bobl hynny'n colli eu cyflogau os byddant yn colli sifftiau. Gwyddom fod llawer o bobl yn y sector gofal cymdeithasol ar gyflogau isel, ac nad ydynt yn gallu manteisio ar lawer o'r amddiffyniadau cyflogaeth yr hoffem eu gweld yn manteisio arnynt.
Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn atal y feirws rhag ymledu i gartrefi gofal preswyl, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â'r pwynt hwnnw, ac felly byddai angen i bobl sy'n gweithio yn y cartrefi hyn gael sicrwydd y byddent yn cael eu diogelu yn y ffordd honno os nad ydynt yn mynd i'r gwaith. Felly, a ydych mewn sefyllfa i allu gwarantu na fyddai'r gweithwyr a gyflogir yn aml gan gynghorau lleol yn wynebu unrhyw golled economaidd pe baent yn dilyn cyngor iechyd swyddogol ac yn peidio â mynd i'r gwaith os ydynt yn amau bod coronafeirws arnynt ac yn gorfod rhoi eu hunain mewn cwarantîn? Nid dim ond yn y tymor byr—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n golygu yn y tymor byr, nid ad-daliad damcaniaethol yn y tymor hwy pe baent yn datblygu'r symptomau'n ddiweddarach.
Rwy'n deall y pwynt rydych yn ei wneud yn iawn. Mae amryw o gategorïau o weithwyr. Felly, yn sicr bydd pobl a gyflogir gan yr awdurdod lleol yn cael eu talu o'r cychwyn. Mae'r Prif Weinidog, fe wyddoch, wedi gwneud cyhoeddiadau ynglŷn â thri diwrnod cyntaf y salwch—nid yw rhai gweithwyr yn cael eu talu am y tridiau cyntaf. Rwy'n falch o ddweud nad yw hynny'n wir yn y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ond cawsom sgwrs hir yn y Cabinet y bore yma am rai o'r problemau economaidd a gododd, a bydd fy nghyd-Aelodau Ken Skates a Lee Waters yn edrych arnynt. Ond os caf wneud cymhariaeth—un wael, rwy'n gwybod—â'r llifogydd sydd newydd ddigwydd. Wrth gwrs, rydym wedi bod yn awyddus i sefydlu cynlluniau ar gyfer pobl fusnes a phobl hunangyflogedig yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Felly, byddwn yn sicrhau bod y mathau hynny o gynlluniau'n bodoli hefyd ar gyfer pobl yn yr amgylchiadau hynny, ac yn ôl pob tebyg, drwy helpu'r busnesau, gan obeithio helpu'r bobl yn economi'r GIG, gan ei bod yn anodd iawn cael help unigol yn y ffordd honno, gallwn helpu gyda llif arian ac yn y blaen i gadw hynny i fynd. Ond byddwn yn dibynnu'n fawr, os aiff y peth ymlaen am amser hir iawn, ar Lywodraeth y DU i gamu i'r adwy a gwneud yn siŵr ei bod yn talu am bethau yn Lloegr yn y fath fodd fel ein bod yn cael yr arian canlyniadol y mae cymaint o'i angen arnom yng Nghymru er mwyn i ni allu amddiffyn ein gweithlu.
Diolch am hynny. Rwy'n sylweddoli unwaith eto fod yna ansicrwydd ynghlwm wrth rywfaint o hyn oherwydd y rôl y bydd Llywodraeth y DU yn ei chwarae. Yn amlwg, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai gorau po gyntaf y cawn eglurder ar hyn i bawb.
Felly, yn olaf, hoffwn droi at fater gorfodaeth. Yn ôl fy nealltwriaeth i, yng Nghymru, swyddogion iechyd yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi cyfarwyddebau i unigolion hunanynysu os credant fod angen gwneud hynny. A'r cwestiwn yw: pwy sy'n gyfrifol am orfodi cyfarwyddeb o'r fath? Mae'n glir mai'r heddlu sydd â'r awdurdod yn Lloegr, yn dilyn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) 2020 a basiwyd ar 10 Chwefror. Unwaith eto, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r rheoliadau hynny'n cynnwys Cymru, ond mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gyflwyno ei rheoliadau cyfatebol ei hun. A allech chi ddweud wrthyf a yw'n fwriad gan y Llywodraeth i wneud hynny, ac os felly, pryd?
Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried y ddeddfwriaeth a grybwyllwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n benodol i'r coronafeirws, ac rwy’n gresynu rhywfaint oherwydd credaf y dylai fod yn ddeddfwriaeth ar gyfer pandemig yn hytrach na deddfwriaeth benodol. A phan gawn eglurder ynglŷn â beth yn union fydd y ddeddfwriaeth honno’n ei gynnwys, byddwn yn gallu cyflwyno'r hyn rydym ei angen i lenwi'r bylchau yng Nghymru, os caf ei roi felly, a hyd nes y cawn rywfaint o eglurder, ni allwn wneud y penderfyniad hwnnw.
Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae gennym bartneriaeth dda yn gweithio gyda'n holl awdurdodau drwy gyngor partneriaeth Cymru a’n bwrdd heddlu. Mae fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, ar fin cadeirio un o'r cyfarfodydd gyda chydweithwyr yn yr heddlu, felly rydym yn eithaf sicr y byddwn yn gallu ei ddatrys yn lleol beth bynnag, ond byddwn eisiau edrych ar y math o reoliadau fydd eu hangen pan welwn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig yn ei Bil trosfwaol.
Mae cwestiwn 3 [OAQ55169] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 4, Helen Mary Jones.