Rhestrau Aros am Dai Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:24, 4 Mawrth 2020

Mae'n gwbl ryfeddol nad oes gennych chi fel Llywodraeth ddata manwl cenedlaethol am y nifer o bobl sydd yn aros am dŷ cymdeithasol yng Nghymru. O gofio bod hon yn un o'ch blaenoriaethau chi, sef darparu mwy o dai cymdeithasol, sut yn y byd ydych chi'n medru monitro bod eich polisïau chi'n effeithiol os dydych chi ddim yn gwybod un union beth yw'r sefyllfa? Yn Arfon, dwi yn gwybod bod llawer gormod o bobl yn aros am dai cymdeithasol. Maen nhw mewn tai anaddas. Mae'r tai yn rhy fach i anghenion eu teuluoedd nhw. Maen nhw'n damp a chostus o ran biliau, neu mae pobl yn dibynnu ar ewyllys da eu teuluoedd a'u ffrindiau. Neu, wrth gwrs, maen nhw'n gorfod byw ar y stryd achos bod yna ddim digon o dai cymdeithasol.

Mae gan Gyngor Gwynedd, dwi'n gwybod, gynlluniau arloesol i adeiladu mwy o dai cymdeithasol i ddiwallu'r angen yn lleol. Ond, dwi'n gofyn i chi eto: sut fedrwch chi ddarparu digonedd o dai os dydych chi ddim yn gwybod beth yw digonedd o dai yn y lle cyntaf, oherwydd bod y data ddim ar gael?