Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 4 Mawrth 2020.
Rwy'n falch o ddweud nad yw'r Gweinidog erioed wedi bod yn fud. Ond a gaf fi ddweud, nid ydym ni yn Ogwr ar ein pennau ein hunain wrth gael pobl ar y rhestr dai cymdeithasol yn aros am lety am wahanol fathau o unedau, ac ar yr un pryd, mae gennym lawer o eiddo gwag, yn aml uwchben siopau, yn y Cymoedd, y gellid eu troi, gyda'r grantiau sydd bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio, gydag ychydig o feddwl cydgysylltiedig, yn unedau tai cymdeithasol? Felly, sut y mae cyngor fel Pen-y-bont ar Ogwr, arweinydd cyngor fel Huw David, a'i swyddogion, yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i gydgysylltu hyn a dweud, 'Wel, fel awdurdod lleol, gyda chymdeithasau tai eraill, gallwn ddatblygu'r eiddo gwag hyn i'w troi'n gartrefi hyfryd i bobl'?