Tai Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:46, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb. Fe fydd yn gwybod, ac fe fydd yn falch iawn o wybod, fod y weinyddiaeth yno o dan arweiniad Plaid Cymru, flwyddyn ar y blaen i'w targed cychwynnol o 900 o gartrefi cyngor newydd. A gwn y bydd y Gweinidog yn falch fod yr awdurdod lleol wedi ymrwymo ddoe ddiwethaf i adeiladu 370 o gartrefi newydd eraill dros y tair blynedd nesaf. Ac mae'n dangos beth y gall awdurdod lleol ei gyflawni—gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn wir, rwy'n cydnabod yn llwyr—pan fyddant yn barod i roi arweiniad go iawn.

Mae'n debyg y bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod y cynlluniau newydd yn enwedig yn edrych ar ffyrdd y gallant ddatblygu stoc dai newydd a fydd yn niwtral o ran carbon, a gwn fod hynny'n cyd-fynd yn fawr â'r materion y mae'r Gweinidog wedi'u codi'n rhan bendant o'i hagenda. A all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw pa gefnogaeth bellach y bydd Llywodraeth Cymru'n gallu ei darparu i awdurdodau lleol i sicrhau y gellir ailadrodd y llwyddiant hwn yn Sir Gaerfyrddin mewn mannau eraill, yn enwedig o ran datgarboneiddio'r stoc dai bresennol, sydd, wrth gwrs, yn llawer anos nag adeiladu cartrefi carbon niwtral newydd fel y mae pawb ohonom yn gwybod?