Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 4 Mawrth 2020.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n codi gyda rhywfaint o anesmwythder, o ystyried y sylwadau ychydig yn ddramatig a gafwyd yn gynharach, ond os caf arfer fy nyletswyddau craffu yma. A yw'r Gweinidog yn dal i gredu y bydd y targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros dymor y Cynulliad yn cael ei gyrraedd? Yn ôl fy nghyfrifiad, mae gennych 6,500 o dai i’w hadeiladu mewn oddeutu 13 mis. A lle mae prinder ar hyn o bryd? A yw'n fwy o ran cartrefi cymdeithasol, neu o ran y cynllun Cymorth i Brynu a chynlluniau tebyg?