Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:39, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau i chi ynglŷn â pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i helpu awdurdodau lleol i baratoi i ymdopi â'r achosion o coronafeirws. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ofalwyr cartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. A oes gan y Llywodraeth hyder y bydd gan awdurdodau lleol gapasiti i sicrhau gofal parhaus i bobl sydd ei angen, os bydd y gofalwyr eu hunain yn mynd yn sâl—boed yn berthnasau di-dâl, neu'n weithwyr gofal mewn cartrefi preswyl? Nawr, rwy'n ymwybodol fod cynlluniau wedi'u crybwyll i ddenu gweithwyr iechyd sydd wedi ymddeol yn ol i weithlu'r GIG. A yw hyn yn cael ei ystyried ar gyfer y sector gofal hefyd? Ac yn olaf, a allwch chi gadarnhau y bydd adnoddau ychwanegol ar gael i gynghorau i dalu unrhyw gostau ychwanegol a ddaw yn sgil hynny?