Adfywio Canol Trefi

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:51, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae trawsnewid trefi ledled Cymru a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi parhau i gefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, yn enwedig gyda phrosiectau gwerth £60 miliwn sy'n canolbwyntio ar y Rhyl, Wrecsam a Threffynnon.