Adfywio Canol Trefi

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:52, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fel cyd-ogleddwr, fe fyddwch yn adnabod stryd fawr Bwcle yn fy etholaeth yn dda iawn. Yn anffodus, dros y blynyddoedd, mae wedi gweld busnesau'n cau, ac mae wedi colli pob un o'i banciau. Nawr, mae angen buddsoddiad go iawn yng nghanol y dref i gyd-fynd â gwaith caled y gymuned ym Mwcle, a'u gwaith caled i gefnogi'r stryd fawr. Yn bersonol, rwy'n benderfynol o sefydlu banc cymunedol yn y dref, a dyna fydd man cychwyn adfywio yn fy marn i. Weinidog, mae hefyd yn allweddol ein bod yn dod ag unedau gwag yn ôl i ddefnydd. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i ymuno â mi ar ymweliad â stryd fawr Bwcle i drafod gyda rhanddeiliaid amrywiol sut y gall Llywodraeth Cymru wneud i hyn ddigwydd a dechrau adfywio trefi fel Bwcle?