Tai Cyngor

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:02, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Roeddwn eisiau gofyn i chi, Weinidog, pan fyddwn yn sôn am dai fforddiadwy yn benodol, a fydd eich cynlluniau ar gyfer dulliau adeiladu anhraddodiadol, os caf ddweud, yn effeithio ar dai cyngor a thai cymdeithasol a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol? Yn amlwg, bydd eu cyfleuster benthyca yn dibynnu ar brisio corff yr asedau ac yn amlwg, cawsom broblemau gydag eiddo a godwyd rhwng y rhyfeloedd ac ar ddechrau'r 1960au yn sgil adeiladu gyda blociau concrit. A allwch chi ddweud wrthym pa sgyrsiau a gawsoch gyda benthycwyr ynglŷn ag a fyddant yn pryderu ynghylch hyn, oherwydd mae'r rhain yn syniadau da iawn ac nid ydym eisiau iddynt gael eu rhwystro gan anallu i fenthyca? Diolch.