Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 4 Mawrth 2020.
Rwy'n falch iawn, Weinidog, fod gennyf nifer o gwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint wedi'u sefydlu'n dda yn fy etholaeth sy'n awyddus iawn i ymgymryd â'r gwaith o adeiladu cartrefi cyngor i'r awdurdod lleol, ac mae'r awdurdod lleol hefyd yn awyddus i'r cwmnïau hynny ymgymryd â'r gwaith. Ar hyn o bryd, mae'r broses yn ymddangos yn or-gymhleth, ac rwy'n meddwl tybed sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i wneud y broses dendro'n haws ac yn symlach. Oherwydd mae pawb ohonom eisiau gweld mwy o fusnesau lleol cynhenid yn gwneud y math hwn o waith yng Nghymru. Sut y gallwn gyflawni hynny a gwneud y broses yn llawer haws nag y mae ar hyn o bryd?