Tai Cyngor

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:54, 4 Mawrth 2020

Mae yna gwestiwn wedi codi, efallai, ynglŷn â sut mae nifer o gynghorau yng Nghymru yn mynd i allu manteisio ar gyfleoedd yn y maes yma, oherwydd maen nhw, wrth gwrs, wedi colli eu stoc tai cyngor ers iddyn nhw drosglwyddo'r rheini i landlordiaid cymdeithasol dros ddegawd yn ôl. Nawr bod pethau, wrth gwrs, wedi newid a bod pwyslais ar gynghorau i godi tai eu hunain unwaith eto, yna y cwestiwn yw: sut y mae cynghorau heb stoc yn gallu bod yn rhan o'r ymdrech yma? Felly, gaf i ofyn pa ffyrdd amgen y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cynnig i gynghorau sydd heb stoc dai yn uniongyrchol o fewn eu perchnogaeth nhw eu hunain i fod yn rhan o greu mwy o dai cyhoeddus sydd yn, wrth gwrs, wirioneddol fforddadwy?