Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:44, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny. Rwy'n sylweddoli unwaith eto fod yna ansicrwydd ynghlwm wrth rywfaint o hyn oherwydd y rôl y bydd Llywodraeth y DU yn ei chwarae. Yn amlwg, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai gorau po gyntaf y cawn eglurder ar hyn i bawb.

Felly, yn olaf, hoffwn droi at fater gorfodaeth. Yn ôl fy nealltwriaeth i, yng Nghymru, swyddogion iechyd yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi cyfarwyddebau i unigolion hunanynysu os credant fod angen gwneud hynny. A'r cwestiwn yw: pwy sy'n gyfrifol am orfodi cyfarwyddeb o'r fath? Mae'n glir mai'r heddlu sydd â'r awdurdod yn Lloegr, yn dilyn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) 2020 a basiwyd ar 10 Chwefror. Unwaith eto, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r rheoliadau hynny'n cynnwys Cymru, ond mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gyflwyno ei rheoliadau cyfatebol ei hun. A allech chi ddweud wrthyf a yw'n fwriad gan y Llywodraeth i wneud hynny, ac os felly, pryd?