Gemau Rygbi'r Chwe Gwlad

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:07, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Yn wir, mae gemau Rygbi'r Chwe Gwlad yn cael eu gwylio gan 82 y cant o boblogaeth Cymru. Mae hwnnw'n ffigur hollol anghredadwy, a chredaf, mewn rhai ffyrdd, y gellir dadlau'n sicr ei fod yn achos unigryw oherwydd hynny.

Ond mae'r ddadl ynglŷn ag a ddylai'r gemau symud i blatfform talu-wrth-wylio yn ymwneud â mwy na rygbi'n unig. Mae'n ymwneud â'r ffaith na ddylai rhai pethau gael eu penderfynu gan bwy sy'n gallu talu fwyaf o arian. Nawr, rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaeth y Dirprwy Weinidog mewn perthynas â'r ffaith bod y broses dendro hon yn dal i fynd rhagddi, y bydd materion yma a fydd yn gyfrinachol, ond oherwydd y lle unigryw sydd i rygbi yng nghalonnau llawer o bobl yng Nghymru, mae'n dal yn bwysig inni gael trafodaeth am hyn yn y Senedd.

Ers i'r RFU neu England Rugby werthu'r hawliau i'w gemau i Sky ychydig flynyddoedd yn ôl, mae miliynau o gefnogwyr rygbi Lloegr wedi methu gwylio eu tîm eu hunain yn chwarae. Nid wyf yn credu y byddai o fudd i neb pe bai'r un peth yn digwydd i rygbi Cymru.