Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 4 Mawrth 2020.
Nawr, dŷch chi wedi sôn am rai o'r problemau pam dŷch chi methu ateb rhai pwyntiau yn barod, Dirprwy Weinidog, ond, am yr iaith Gymraeg, fy mhryder i a nifer fawr iawn o bobl yw does dim sicrwydd y bydd sylwebaeth yn y Gymraeg yn parhau. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau byddwch chi’n edrych i'w chael gyda'r Llywodraeth yn San Steffan ynglŷn â dyfodol sylwebaeth yn y Gymraeg—os bydd dal gan S4C a Radio Cymru yr hawl i gario ymlaen i sylwebu yn y Gymraeg? Os na fydd, y pryder yw bydd nifer fawr iawn o bobl Cymru’n rili colli mas a chael—. They’ll be disenfranchised—sut bynnag mae dweud hwnna yn y Gymraeg.