Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 4 Mawrth 2020.
Wel, mewn ymateb i'r datganiad hynod ddi-flewyn-ar-dafod hwnnw, gallaf addo y byddaf yn gwneud yr hyn y gofynnwyd amdano, oherwydd, wedi'r cyfan, nid yn unig rwy'n aelod o'r Llywodraeth, rwy'n was i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac mae'n glir iawn, yn y drafodaeth hon, beth yw barn yr Aelodau. Byddaf yn falch iawn o dynnu sylw—. Yn amlwg, mae wedi cael ei wneud yn y man cyhoeddus arbennig hwn, a bydd pawb yn gwybod beth sydd wedi cael ei ddweud. Ond rwy'n addo cyfleu'r mater hwn. Yn wir, efallai y gallaf ei gyfleu'n bersonol, gan y byddaf yn Llundain ar fusnes arall yn y dyddiau nesaf.