Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Nid yw’r angen i Gymru sicrhau ei bod yn sefyll allan yn rhyngwladol, a datblygu a thyfu ei chysylltiadau rhyngwladol, erioed wedi bod mor fawr. Dyna pam fy mod yn falch iawn o agor dadl heddiw ar strategaeth ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch ein bod wedi cael datganiadau gan y Gweinidog, ar ôl i’r strategaeth ryngwladol gael ei chyhoeddi, ond credaf mai hwn yw'r cyfle cyntaf a gawsom i'w thrafod yn y Senedd ac i'r Aelodau, efallai, gael nodi eu gweledigaeth ar gyfer Cymru yn y byd.
Yn gyntaf, mae'n bwysig croesawu'r strategaeth gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy byd-eang, a sut y mae Cymru’n symud ymlaen mewn marchnad fyd-eang sy'n tyfu'n barhaus—mae hynny’n hanfodol i gyflawni uchelgais i hybu economi Cymru. Mae ein hadroddiad yn benllanw ar bron i flwyddyn o waith yn edrych ar ymagwedd Cymru tuag at gysylltiadau rhyngwladol ar ôl Brexit. Ac rydym yn diolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith. A hoffwn gofnodi fy niolch eto i’r tîm, a'r staff clercio, a'r staff ymchwil, ar y pwyllgor, a wnaeth waith aruthrol i'n helpu i gynhyrchu'r adroddiad hwnnw.
Nawr, yn ein hadroddiad, rydym yn gwneud cyfanswm o 10 argymhelliad, ac mae pob un ohonynt yn mynd i'r afael â meysydd penodol sy'n ymwneud â'r hyn a oedd, pan gyhoeddwyd yr adroddiad, yn strategaeth ryngwladol ddrafft. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes cyffredinol: blaenoriaethau a chyflawniad y strategaeth; cydgysylltu gweithgareddau rhyngwladol ar draws y Llywodraeth; a'r berthynas rhwng y cysylltiadau blaenoriaethol a'r swyddfeydd tramor ar ôl Brexit.
Ar gyfer y cyntaf o'r meysydd hyn, rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cytuno â ni ynghylch yr angen i gynnwys datganiad cryfach o’r weledigaeth yn y strategaeth derfynol. Yn ychwanegol at hynny, dylai'r blaenoriaethau a nodwyd yn y strategaeth roi sylfaen i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid ar gyfer mwy o gydweithredu ac ymgysylltu ar y llwyfan rhyngwladol. Yn ein barn ni, mae'r strategaeth yn ddiffygiol o ran cyflawni. Mae'n rhwystredig mai tri tharged mesuradwy yn unig sydd yn y strategaeth. I atgoffa'r Aelodau beth yw'r targedau hyn: (1) codi proffil Cymru yn rhyngwladol drwy sicrhau 500,000 o gysylltiadau rhyngwladol dros y pum mlynedd nesaf—mae’n ddiddorol sut y byddwn yn mesur hynny a sut rydych yn nodi rhai o'r cysylltiadau hyn; (2) tyfu'r cyfraniad a wneir gan allforion i'r economi 5 y cant, er nad ydym yn siŵr at ba gyfnod o amser y mae hynny’n cyfeirio; a (3) plannu 15 miliwn o goed yn Uganda erbyn 2025.
Nawr, mae'r targedau hyn ynddynt eu hunain yn rhesymol ac o fewn cyd-destun y strategaeth. Fodd bynnag, mae gennym bryderon ehangach am y nifer cyfyngedig o dargedau, a'r goblygiadau y gallai hyn eu cael ar gyflawni'r strategaeth. Er ein bod yn deall y ddadl efallai nad y ddogfen strategaeth yw'r lle mwyaf priodol ar gyfer cynnwys cyfres o dargedau, rydym yn sicr y dylai'r strategaeth gael ei chefnogi gan gynllun cyflawni y gallwn ni, fel pwyllgor, graffu arno. Mae'n siomedig iawn, felly, ei bod yn ymddangos bod ein galwadau'n disgyn ar glustiau byddar yn hyn o beth.
Ac ar ben hynny, mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i’n hadroddiad yn honni ei fod yn derbyn argymhellion 5 a 6, sy’n galw am gyhoeddi cyfres fanwl o dargedau mesuradwy a chynlluniau cyflawni, ac yna’n nodi yn naratif y strategaeth nad y bwriad yw cyhoeddi cynlluniau manwl pellach yn ychwanegol at y rheini a geir yn y strategaeth. Mae hawl gan y Llywodraeth i arddel y farn hon wrth gwrs, er mor siomedig ydyw, ond mae ceisio honni ei bod, wrth wneud hynny, yn derbyn ein hargymhellion, yn codi cwestiynau ynglŷn â pha mor gredadwy yw rhai o'r datganiadau.
Mae'r ail faes diddordeb yn ymwneud â chydgysylltu gweithgareddau Llywodraeth Cymru a sut y maent yn berthnasol i'r strategaeth newydd. O’r blaen yn y Siambr hon, rwyf wedi croesawu creu swydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am gysylltiadau rhyngwladol. A dylai penodiad o'r fath helpu i gynyddu gwelededd materion sy’n ymwneud â chysylltiadau rhyngwladol ar draws y Llywodraeth—tasg sy’n bwysicach fyth wrth inni greu dyfodol newydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Yn yr adroddiad hwn ac yn ein hadroddiad blaenorol ar berthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol, gwnaethom dynnu sylw at bwysigrwydd cydgysylltu effeithiol â phortffolios allweddol eraill, yn enwedig portffolios yr economi, yr amgylchedd ac addysg. I'r perwyl hwnnw, gwnaethom ailadrodd ein barn y dylai'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol sefydlu mecanwaith ffurfiol ar gyfer cydgysylltu gwaith Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhyngwladol drwy greu is-bwyllgor Cabinet. Mae ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion hyn yn siomedig. Er gwaethaf y pwysigrwydd sydd ynghlwm wrth yr angen am fecanwaith ffurfiol ar gyfer cydgysylltu, fel y nodwyd mewn dau adroddiad pwyllgor, mae'r Gweinidog wedi penderfynu peidio â rhoi unrhyw un ohonynt ar waith mewn unrhyw fodd ystyrlon, a buaswn yn ei hannog i ailystyried hynny.
Mae'r maes olaf yn ymwneud â'r cysylltiadau blaenoriaethol a nodwyd yn y strategaeth a dyfodol swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru. Nawr, rydym yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed yn y strategaeth derfynol i adeiladu ein cysylltiadau rhyngwladol â nifer o wledydd a rhanbarthau a chenhedloedd is-wladwriaethol ledled y byd. Dylid rhoi pwysigrwydd newydd i’r gwaith hwn yng ngoleuni ymadawiad y DU â'r UE a'r berthynas newydd a ddaw i rym ar ddiwedd y flwyddyn hon, beth bynnag y bo, gan ein bod yn ansicr ar hyn o bryd. Bydd y ffordd y mae'r cysylltiadau blaenoriaethol yn cyd-blethu â gwaith y swyddfeydd tramor yn allweddol i lwyddiant yn y dyfodol. Rwy'n croesawu'r adolygiad y mae’r Gweinidog yn ei amlinellu yn ei hymateb. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog roi mwy o fanylion ynglŷn â chynnwys yr adolygiad hwn a'r amserlenni ar gyfer ei gwblhau.
O ran y ddwy berthynas flaenoriaethol â gwledydd eraill, sef Iwerddon a'r Almaen, mae'r strategaeth yn nodi’n briodol y cysylltiadau economaidd a chymdeithasol agos sy'n bodoli ar hyn o bryd. Yn ychwanegol at hynny, mae'r strategaeth yn tynnu sylw at y ffaith mai gwladolion o'r Almaen ac Iwerddon yw dwy o'n cymunedau rhyngwladol mwyaf. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn achub ar y cyfle hwn, a phob cyfle, i ailadrodd ein neges o gefnogaeth i'r cymunedau hyn a chymunedau eraill sy'n byw yng Nghymru o bob rhan o'r UE. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog a'r Aelodau eraill yn ategu fy nghefnogaeth iddynt.
Yn y dyfodol, byddai'n ddefnyddiol i ni pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd o ran y trafodaethau ynghylch unrhyw berthynas benodol rhwng Iwerddon a'r DU yn y dyfodol a'r negodiadau ynghylch parhau i gyfranogi yn rhaglenni'r UE ar ddiwedd y cyfnod pontio. Mae pryder o hyd y gallai’r rhain gael eu colli os na ellir dod i gytundeb ar y berthynas yn y dyfodol a chytundeb masnach rydd, ac maent yn rhoi hwb i statws rhyngwladol Cymru. Yn bersonol, credaf na ddylent byth fod wedi bod yn gysylltiedig â chytundeb masnach. Maent ar wahân, maent yn rhaglenni sy'n ein helpu i ddatblygu ein gwlad ac ni ddylent fod wedi bod yn rhan o'r safbwynt negodi.
Fel pwyllgor, rydym wedi nodi'r gwerth ychwanegol i feysydd cyfrifoldeb datganoledig, megis addysg, ymchwil a datblygu economaidd, a gafwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn llu o raglenni'r UE. Rwy’n falch fod y datganiad gwleidyddol a’r mandadau negodi yn dal i adael y drws ar agor ar gyfer negodi setliad yn y meysydd hyn. Fodd bynnag, credaf y bydd angen lobïo parhaus ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y negodiadau rhwng y DU a'r UE. Y prynhawn yma'n unig, yn y cwestiwn i'r Gweinidog pontio Ewropeaidd newydd, y clywsom am y pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r ffaith nad ydym wedi gweld y llais hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn y mandadau eto.
Nawr, wrth inni fwrw ymlaen â chytundebau masnach a thrafodaethau ynglŷn â sut y bydd cysylltiadau â'r UE a chenhedloedd eraill yn y dyfodol yn datblygu, mae’n rhaid inni wneud popeth a allwn i gryfhau llais Cymru, yn ystod y negodiadau ac wedi hynny, pan fydd y cysylltiadau wedi'u sefydlu, a gwn fod y Llywodraeth yn rhannu'r safbwyntiau hynny.
Lywydd dros dro, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad. Rwy'n gobeithio y byddant yn ei gefnogi, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau ac ymateb y Gweinidog y prynhawn yma.